Datblygwyd y deunydd yma i gydfynd â modiwl CP0110 Cyflwyniad i Gynllunio Gofodol, modiwl lefel 4 ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae'r modiwl yn edrych ar darddiad cynllunio gofodol ym Mhrydain ac yn esbonio sut mae'r system bresennol wedi esblygu. Rhoddir sylw arbennig i'r themâu allweddol sy’n dod i'r amlwg o gynllunio Prydeinig: ei ymddangosiad fel gweithgaredd llywodraeth leol; effaith proffesiynoldeb a meddylwyr 'llawn gweledigaeth'; newid ideolegau gwleidyddol; a newidiadau yng nghraddfeydd gofodol cynllunio.