Ychwanegwyd: 05/09/2023 Dyddiad cyhoeddi: 2023 581 Dwyieithog

Astudiaethau Achos JISC: Cydweithio Digidol yn y Sector Ôl-16

Disgrifiad

Mae Jisc yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i yrru Digidol 2030 ymlaen, sy'n ceisio gweld darparwyr dysgu yng Nghymru yn harneisio potensial technoleg ddigidol wedi'i seilio ar egwyddorion arloesi, cydweithio, cydgynhyrchu a phartneriaeth gymdeithasol.

I gefnogi hyn, mae Jisc wedi dod o hyd i chwe enghraifft o fentrau cydweithredol llwyddiannus gan ddefnyddio offer a thechnoleg ddigidol mewn dysgu ac addysgu ôl-16 yng Nghymru. Amlinellwyd y ffactorau llwyddiant allweddol ar gyfer yr astudiaethau achos hyn a dangos lle gellid cynyddu pob dull cydweithredol neu ei fod yn fuddiol mynd i'r afael â materion neu bynciau penodol.

Yn gyffredinol, mae'r astudiaethau achos hyn yn cynnig cipolwg ar y posibiliadau cyffrous a agorir trwy gydweithio o fewn ac ar draws sectorau, wedi'u galluogi gan dechnoleg ddigidol, pan fydd partneriaid mewn cydweithrediad yn rhannu gweledigaeth gyffredin a dull cynaliadwy.

Themâu allweddol sy'n cefnogi uchelgeisiau digidol Cymru

Gellir ystyried yr astudiaethau achos fel enghreifftiau o'r pedair blaenoriaeth genedlaethol allweddol a amlinellir yng ngalwad Llywodraeth Cymru i weithredu ar gyfer sefydliadau AB ym mis Rhagfyr 2022:

  1. Gweithio ar y cyd i ehangu mynediad at gyfleoedd dysgu
  2. Datblygu galluoedd digidol dysgwyr a staff a hyder ar gyfer dysgu, bywyd a gwaith
  3. Manteisio i'r eithaf ar botensial technoleg i rymuso, ennyn brwdfrydedd ac ysbrydoli dysgwyr
  4. Ymgorffori dulliau ystwyth, gwydn a chynaliadwy o gyflawni

Astudiaethau achos

Mae'r chwe astudiaeth achos yn cwmpasu colegau ledled Cymru a chydweithrediadau ar draws AB a chyda chweched dosbarth, AU, dysgu seiliedig ar waith a dysgu cymunedol (gweler Atodiad 1). Mae'r offer a'r dechnoleg ddigidol a ddefnyddir yn amrywio o ystafelloedd dosbarth rhithwir a thechnoleg realiti rhithwir i apiau a llwyfannau cydweithredu fel Microsoft Teams. Yn gryno, mae'r astudiaethau achos yn cynnwys:

Diemwntau Digidol: cymuned ymarfer yng Nghymru sy'n helpu ymarferwyr a rheolwyr i ddarparu Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW) ar draws addysg a hyfforddiant ôl-16.

Educ8 a CEMET (Prifysgol De Cymru): datblygu adnoddau realiti rhithwir ar gyfer dysgu seiliedig ar waith drwy ddull cydweithredol gydag AU a chyflogwyr.

Growing Comms: Gosod mannau dysgu gweithredol cysylltiedig mewn Addysg Uwch ac AB trwy gydweithredu traws-sector, gydag effeithiau cadarnhaol cryf ar ddysgwyr.

St David's WeConnect: cydweithio rhwng y chweched dosbarth i ddarparu cwricwlwm ehangach drwy ystafelloedd dosbarth rhithwir.

Target Tracker: colegau yn cydweithio i ddatblygu offer digidol i gefnogi dysgwyr ag anghenion ychwanegol.

Urdd Gobaith Cymru a Chynllun Gwreiddio (Coleg Cymraeg Cenedlaethol): datblygu sgiliau Cymraeg drwy ddysgu ar y cyd i brentisiaid a staff addysgu.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Ôl-16 a Galwedigaethol
Perthyn i
Trawsddisgyblaethol
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adroddiad/ymchwil
mân-lun cydweithio digidol

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.