Ychwanegwyd: 03/06/2020 Dyddiad cyhoeddi: 2018 737

Gruffydd Jones et al., 'Rhododendron ponticum: Hanes ei gyflwyno a'i ymlediad yng Nghymru, y bygythiad i fioamrywiaeth a'r dyfodol' (2018)

Disgrifiad

Llwyn bytholwyrdd coediog yw Rhododendron ponticum L., sy'n aelod o deulu'r Ericaceae. Daw yn wreiddiol o Sbaen, Mynyddoedd y Cawcasws ac arfordir y Môr Du. Cafodd ei gyflwyno i Brydain yn y ddeunawfed ganrif. Ers hynny, fodd bynnag, mae wedi datblygu i fod yn un o rywogaethau ymledol mwyaf niweidiol Prydain, gan achosi difrod ecolegol ac economaidd sylweddol. Bydd yr erthygl hon yn trafod hanes R. ponticum yng Nghymru, gan ystyried y ffactorau amgylcheddol a chymdeithasol sydd wedi cyfrannu at ei lwyddiant yma. Disgrifir y sefyllfa bresennol yng Nghymru, gan gynnwys y mathau o niwed y mae'n eu hachosi, yn ogystal â'r ymdrechion i reoli ei ymlediad. I gloi, bydd yr erthygl yn edrych ar rai o heriau amgylcheddol y dyfodol, a sut y gall y rhain ddylanwadu ar ymlediad R. ponticum. Gruffydd Jones, John Scullion, Ana Winters, Rhys Owen, John Ratcliffe, Doug Oliver a Dylan Gwynn-Jones, &lsquoRhododendron ponticum: Hanes ei gyflwyno a'i ymlediad yng Nghymru, y bygythiad i fioamrywiaeth a'r dyfodol', Gwerddon, 27, Hydref 2018, 20-38.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Gwyddorau Amgylcheddol, Gwyddorau Biolegol
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Erthygl 'Gwerddon'
mân-lun cyfrol gwerddon 27

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.