Mae’r adnodd hwn ar gyfer dysgwyr a phrentisiaid sy’n astudio cymhwyster Lefel 3 Gwaith Coed ar y Safle, ynghyd â’r staff sy’n eu cefnogi.
Mae’r adnodd rhyngweithiol dwyieithog hwn yn cynnwys gwybodaeth, gweithgareddau ac adnoddau dysgu ar draws y ddwy uned ganlynol:
- 314: Gosod cydrannau cymhleth y ffics cyntaf a’r ail ffics
- 315: Codi cydrannau fframwaith strwythur y to.
Nod yr adnodd yw cefnogi dysgwyr yn eu hastudiaethau a’u hannog i ddefnyddio cymaint o’r cynnwys â phosibl drwy gyfrwng y Gymraeg.
