Mae’r adnodd hwn ar gyfer dysgwyr a phrentisiaid sy’n astudio cymhwyster Lefel 2 Plastro Soled, ynghyd â’r staff sy’n eu cefnogi.
Mae’r adnodd rhyngweithiol dwyieithog hwn yn cynnwys gwybodaeth, gweithgareddau ac adnoddau dysgu ar draws y tair uned ganlynol:
- 225: Gwybodaeth graidd am blastro soled
- 226: Creu gorffeniadau plastro soled mewnol
- 227: Gosod rendr soled ar arwynebau cefndir a chreu gorffeniadau.
Nod yr adnodd yw cefnogi dysgwyr yn eu hastudiaethau a’u hannog i ddefnyddio cymaint o’r cynnwys â phosibl drwy gyfrwng y Gymraeg.
