Ychwanegwyd: 03/06/2020 Dyddiad cyhoeddi: 2016 669

Lisa Sheppard, 'Troi Dalen "Arall"': Ail-ddehongli'r berthynas rhwng cymunedau Cymraeg a Saesneg de Cymru mewn dwy nofel ddiweddar yng ngoleuni ffigwr yr 'arall'' (2016)

Disgrifiad

Enillydd Gwobr Gwerddon am erthygl orau 2015-17. Mae'r erthygl hon yn dadansoddi'r berthynas rhwng siaradwyr Cymraeg a Saesneg yn y golygfeydd tafarn mewn dwy nofel gyfoes o dde Cymru, sef Y Tiwniwr Piano gan Catrin Dafydd (2009) a The Book of Idiots gan Christopher Meredith (2012), yng ngoleuni damcaniaethau athronyddol am yr 'arall' ac aralledd. Olrheinir datblygiad cysyniad yr 'arall' gan ystyried gwaith athronwyr a damcaniaethwyr diwylliannol megis Georg Hegel, Simone de Beauvoir, Frantz Fanon a Homi Bhabha. Trwy droi at waith Charlotte Williams a Simon Brooks, dadleuir y gallai siaradwyr Cymraeg a Saesneg Cymru fel ei gilydd brofi aralledd, ac yna try'r erthygl at y nofelau er mwyn archwilio sut yr adlewyrchir hyn mewn testunau ffuglennol cyfoes. Daw'r erthygl i gasgliad ynglyˆn ag arwyddocâd aralledd i'r dychymyg a'r hunaniaeth Gymreig gyfoes, ac awgryma sut y gallai syniadau athronyddol eraill ein helpu i ganfod tir cyffredin rhwng dwy brif gymuned ieithyddol y genedl. Lisa Sheppard, 'Troi Dalen “Arall”: Ail-ddehongli'r berthynas rhwng cymunedau Cymraeg a Saesneg de Cymru mewn dwy nofel ddiweddar yng ngoleuni ffigwr yr “arall”', Gwerddon, 21, Ebrill 2016, 26-47.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Athroniaeth, Cymraeg
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Erthygl 'Gwerddon'
mân-lun cyfrol gwerddon 21

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.