Ychwanegwyd: 07/09/2022 Dyddiad cyhoeddi: 2022 1.7K Cymraeg Yn Unig

Llunio Hanes: Hanesyddiaeth a Chrefft yr Hanesydd

Disgrifiad

Mae’r gyfrol hon yn cynnwys casgliad o benodau gan nifer o haneswyr ac ysgolheigion sydd yn cyflwyno rhai o brif themâu a chysyniadau hanes. Mae wedi ei anelu at fyfyrwyr israddedig sy'n astudio Hanes, mae'n gyflwyniad i hanesyddiaeth – yr astudiaeth o ysgrifennu hanes.

Mae’r awduron yn tywys y darllenydd ar hyd llinyn amser, gan dynnu ar agweddau Ewropeaidd a thu hwnt er mwyn olrhain datblygiad hanes fel disgyblaeth proffesiynol.

Penawdau'r gyfrol yw:

  • Beth yw Hanes - Meilyr Powel
  • O'r 'Gwleidyddol' i'r 'Cymdeithasol': Syrffio ar donnau Hanes dros y Degawdau - Gethin Matthews
  • Hanes Cenedlaethol - Huw Pryce
  • Hanes Marcsaidd - Douglas Jones
  • Hanes o'r Gwaelod: Y Werin, Y Gweithwyr, Menywod, a'r Darostyngol - Arddun H. Arwyn
  • Hanes ac Anthropoleg - Huw Morus
  • Ôl-strwythuraeth a'r Tro Diwylliannol: Rhywedd, Dwyrainoldeb, ac Ôl-drefedigaethedd - Marion Löffler
  • Epilog; Dyfodol Hanes - Meilyr Powel

Mae’r e-lyfr hwn yn cynnwys casgliad o benodau gan nifer o haneswyr ac ysgolheigion sydd yn cyflwyno rhai o brif themâu a chysyniadau hanes. Fe'i golygwyd gan Dr Meilir Powel a Dr Gethin Matthews.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch, UG/Safon Uwch
Perthyn i
Hanes
Trwydded
CC BY-NC-SA 4.0
Adnodd Coleg Cymraeg E-lyfr
Man lun llunio hanes

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.