Ychwanegwyd: 16/12/2025 Dyddiad cyhoeddi: 2025 18 Dwyieithog

Pecyn technegau newid ymddygiad

Disgrifiad

Comisiynwyd asiantaeth newid ymddygiad Claremont i greu'r Pecyn Technegau Newid Ymddygiad.

Bwriad y pecyn yw rhoi arweiniad a chyngor i ymarferwyr sy'n gweithio gyda dysgwyr sydd wrthi'n gwneud penderfyniadau am eu haddysg.

Mae'r daith i'r brifysgol yn gyfnod cyffrous i fyfyrwyr ond gall hefyd fod yn gyfnod ansicr, yn llawn cwestiynau ynghylch gyrwyr a rhwystrau canfyddedig sy'n ymwneud ag astudio'n Gymraeg.

Gyda'n gilydd, gallwn helpu darpar fyfyrwyr a myfyrwyr i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch eu camau nesaf wrth astudio'n Gymraeg yn y brifysgol.

Mae’r fideo isod yn cyflwyno trosolwg o’r Pecyn gan gynnwys:

  • Sut i ddeall ein cynulleidfa?
  • Y rhwystrau a'r ysgogiad sy'n dylanwadu ar benderfyniadau myfyrwyr ynghylch astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Y strategaethau negeseuon sy'n gallu helpu i leihau ansicrwydd, meithrin hyder a dangos manteision astudio yn Gymraeg

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Adnodd Coleg Cymraeg E-lyfr
Pecyn technegau newid ymddygiad

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.