Ychwanegwyd: 03/06/2020 Dyddiad cyhoeddi: - 708

Pwy sy'n Gwisgo'r Trowsus? (2014)

Disgrifiad

Mae'r rhaglen hon yn edrych ar hanes pedair merch yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Yng ngwesty'r Cambrian yn Aberystwyth mae Dafydd a Gareth Davies yn trafod eu modryb Jesse. Roedd Jesse yn nyrsio yn ystod y rhyfel ym Manceinion. Mae'r ddau wedi casglu lluniau ohoni ac wedi cadw ei llyfr lloffion. Mae'r hanesydd Catrin Stevens yn safle ffatri arfau Pen-bre gyda Beth Leyshon. Roedd perthynas i Beth - Olwen Leyshon - yn gweithio yn y ffatri. Mae Catrin yn trafod gwaith peryglus y munitionettes, ac angladd fawr dwy o'r merched yn Abertawe. Catrin hefyd sy'n holi Meic Haines o Abertawe am ei fam-gu, Edith. Hi oedd un o'r merched cyntaf i gael swydd clippie ar y bysiau yn Abertawe. Mae'r ddau yn cyfarfod yn amgueddfa fysiau Abertawe i drafod yr hanes. Yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth mae Dr Dinah Evans yn trafod Olwen Carey Evans gydag aelod o'r teulu - Manon. Roedd Olwen yn perthyn i'r VADs ac aeth i weithio yn Ffrainc. Yn y Llyfrgell mae lluniau a dyddiadur Olwen o'r cyfnod. Mae'r Dr Graham Jones yn rhoi hanes priodas Olwen yn ystod y rhyfel. Elen Phillips sydd yn sôn am hanes dillad cyn 1914, dyfodiad y trowsus a'r hyn ddigwyddodd i ffasiwn merched ar ddiwedd y rhyfel. Boom Cymru, 2014.

Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Hanes
Trwydded
ERA
Archif S4C
Password Protected
mân-lun Archif S4C

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.