Ychwanegwyd: 23/10/2023 Dyddiad cyhoeddi: 2023 390 Dwyieithog

Tsieina Thomas Pennant

Disgrifiad

Yma, cyflwynir adroddiad gan y naturiaethwr a'r teithiwr Thomas Pennant (1726 – 98) ar Tsieina, sy'n rhan o'i lawysgrif amlgyfrol, 'Outlines of the Globe', a gedwir yn yr Amgueddfa Forwrol Genedlaethol.

Ceir tair adran i'r adnodd:

  1. ysgrif yn trafod ymdriniaeth Pennant â Tsieina;
  2. atodiad yn cynnwys delweddau o'r llawysgrif wreiddiol ynghyd â thrafodaeth yn eu gosod yn eu cyd-destun; a
  3. map rhyngweithiol yn dangos y lleoliadau a enwir yn yr adroddiad gan ganolbwyntio ar bum taith hanesyddol allweddol i Tsieina, ynghyd â thaith ddychmygol Pennant ar hyd arfordir y wlad.

Mae'r adnoddau'n addas ar gyfer myfyrwyr, ysgolheigion, ac unrhyw un sydd â diddordeb yn Tsieina ac ym meysydd Astudiaethau Crefyddol, Celf, Daearyddiaeth, Economeg, Gwyddorau Amgylcheddol ac Eigion, a Hanes.

Cedwir yr holl adnoddau gyda'i gilydd ar wefan Teithwyr Chwilfrydig (https://curioustravellers.ac.uk/tsieina/). Yno, gellir lawrlwytho'r ysgrif a'r atodiad yn uniongyrchol, a gellir dilyn dolen i'r map rhyngweithiol. Ceir cyfarwyddiadau manwl ar sut i drin y map o fewn yr adnodd ei hun, o dan 'Canllaw i'r defnyddiwr', sydd wedi'i leoli o dan 'Gwybodaeth bellach' ar y ddewislen ar y bar llorweddol ar frig y dudalen.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch, Ôl-16 a Galwedigaethol, UG/Safon Uwch, Addysg Oedolion
Perthyn i
Hanes, Gwyddorau Amgylcheddol, Seicoleg, Celf a Dylunio, Addysg Grefyddol
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Gwefan
mân lun Tsieina Thomas Pennant

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.