150 Adnodd Newydd

Datganiad i'r Wasg:

Mae 150 o adnoddau newydd wedi eu cyhoeddi ar y Porth Adnoddau, gwefan adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, er mwyn cefnogi darlithwyr ac ymarferwyr mewn colegau addysg bellach a hyfforddwyr yn y maes prentisiaethau. Bydd yr adnoddau yn cefnogi’r addysgwyr i gynnig darpariaeth Gymraeg a dwyieithog i bob dysgwr a phrentis beth bynnag eu sgiliau Cymraeg yn unol ag amcanion y Cynllun Gweithredu Addysg Bellach a Phrentisiaethau Cymraeg a lansiwyd gan y Llywodraeth yn 2019. 

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi arwain prosiect cenedlaethol i greu a diweddaru dros 150 o adnoddau digidol Cymraeg a dwyieithog ar draws pedwar pwnc blaenoriaeth sef Iechyd a Gofal, Gofal Plant, Gwasanaethau Cyhoeddus ac Amaeth. Ariannwyd y prosiect yn dilyn grant gwerth £150,000 gan Lywodraeth Cymru.  

Ar hyn o bryd, canran isel iawn o weithgareddau dysgu yn y sector ôl-16 sy’n digwydd drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog ond mae’r Cynllun Gweithredu yn anelu at gynnydd sylweddol dros y blynyddoedd i ddod. Mae sicrhau bod adnoddau addas ar gael i ymarferwyr, darlithwyr a hyfforddwyr yn allweddol i wireddu amcanion y cynllun yn enwedig o gofio mai canran gymharol isel o’r gweithlu sy’n ystyried eu hunain yn siaradwyr Cymraeg.  

Yn ôl rheolwr y prosiect, Dr Lowri Morgans sy’n Reolwr Academaidd gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, bydd y prosiect yn cael effaith bellgyrhaeddol ar amcanion Strategaeth Cymraeg 2050 y Llywodraeth i “ddatblygu darpariaeth addysg ôl-orfodol sy’n cynyddu cyfraddau dilyniant ac yn cefnogi pawb, ni waeth pa mor rhugl eu Cymraeg, i ddatblygu sgiliau yn yr iaith i’w defnyddio’n gymdeithasol ac yn y gweithle.”  

Meddai Dr Morgans:  

“Nod y prosiect yw sicrhau bod adnoddau dysgu cyfunol o’r radd flaenaf ar gael yn ddwyieithog neu drwy gyfrwng Cymraeg o Lefel 1 i 3 ar draws y meysydd blaenoriaeth.  

“Mae ein cydlynwyr pwnc sy’n arbenigwyr profiadol yn eu meysydd wedi cydweithio gydag arbenigwyr e-ddysgu i sicrhau bod yr adnoddau sydd wedi eu datblygu yn cwrdd ag anghenion darlithwyr ac ymarferwyr yng Nghymru ac yn llenwi’r bylchau a adnabuwyd o ran diffyg adnoddau Cymraeg a dwyieithog.” 

I gefnogi prentisiaid yn benodol, mae’r Coleg wedi comisiynu “Prentis-iaith ar Lefel Dealltwriaeth”. Mae’r adnodd yn cefnogi hyfforddeion sydd yn meddu ar rywfaint o ddealltwriaeth o’r Gymraeg i ddatblygu eu sgiliau ymhellach ac yn dilyn llwyddiant y fersiwn wreiddiol, “Prentis-iaith ar Lefel Ymwybyddiaeth”, a gomisiynwyd yn flaenorol ar gyfer datblygu ymwybyddiaeth iaith sydd wedi cael ei lawrlwytho o’r Porth Adnoddau dros 11,000 o weithiau. 

Mae 14 o adnoddau wedi eu creu a’u diweddaru yn y maes Gofal Plant gan gynnwys Posteri Geirfa Ddwyieithog Gofal Plant.  

Yn ôl Joanne DeBurgh sy’n ddarlithydd Gofal Plant yng Ngholeg Penybont: 

Rydyn ni wedi argraffu’r holl bosteri ar bapur A3 ac mae’n nhw wedi cael eu gosod ym mhob ystafell ddosbarth.  Hefyd, yn yr adran Gofal Plant, mae copïau A5 wedi cael eu rhoi yn llyfrau'r myfyrwyr er mwyn helpu gydag unrhyw dasgau ble mae angen y termau yn y Gymraeg. 

“Mae pob adnodd wedi bod yn ddefnyddiol. Rydyn ni angen adnoddau dwyieithog gan nad oes gennym ni lawer o fyfyrwyr sydd yn dod o ysgolion neu deuluoedd Cymraeg.” 

Mae 16 o adnoddau wedi eu creu a’u diweddaru yn y maes Iechyd a Gofal. Yn ôl Moli Harrington sy’n ddarlithydd Iechyd a Gofal yng Ngholeg Merthyr Tudful: 

Mae'n wych gweld bod y Coleg Cymraeg nid yn unig wedi comisiynu adnoddau o'r newydd, ond hefyd wedi cymryd yr amser i gasglu a diweddaru cyflwyniadau roedd staff y sector wedi'u creu yn barod. Mae rhannu adnoddau ymysg gwahanol Golegau yn hwyluso addysgu dwyieithog o fewn y maes Iechyd a Gofal ar draws Cymru ac yn rhoi mwy o amser i ni ganolbwyntio ar ein dysgwyr. Edrychaf ymlaen at weld pa adnoddau bydd yn cael eu rhoi ar Borth Adnoddau'r Coleg Cymraeg nesaf.” 

Mae 62 o adnoddau wedi eu creu a’u diweddaru yn y maes Gwasanaethau Cyhoeddus gan gynnwys 60 uned ddysgu rhyngweithiol.  

Yn ôl Carolann Healy sy’n ddarlithydd Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngholeg Sir Gâr: 

Mae’n wych gweld bod fersiynau dwyieithog o adnoddau Gwasanaethau Cyhoeddus y BLC ar gael ac maen nhw wedi cael derbyniad da gan y myfyrwyr a’r darlithwyr. Mae’r Gymraeg nawr yn cryfhau ei hun fel iaith normal a naturiol yn ein colegau addysg bellach ac yn paratoi gweithlu sy’n ddwyieithog. Mae’r adnoddau yma hefyd yn ffordd o gryfhau sgiliau iaith myfyrwyr mewn meysydd newydd ac i rai sydd efallai heb ymarfer yr iaith ers dyddiau ysgol.”  

Mae 63 o adnoddau wedi eu creu a’u diweddaru yn y maes Amaeth gan gynnwys adnodd iechyd anifeiliaid ar y fferm a gafodd ei ddiweddaru.  

Yn ôl David John sy’n ddarlithydd Amaeth yng Ngholeg Penybont: 

Mae'r adnoddau yn rhagorol ac yn help mawr yn y wers yn enwedig i gyflwyno pwnc newydd. Rydw i’n hoff iawn eich bod yn gallu toglo rhwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hawdd.” 

Gellid dod o hyd i’r holl adnoddau newydd drwy ddilyn y dolenni isod:

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.