Bob blwyddyn yng Nghymru mae tua 30 o bobl yn marw wrth aros am drawsblaniad organ, ond mae rheolau newydd wedi dod i rym yma a fydd yn golygu o bosib y daw mwy o organau ar gael. Yn y rhaglen hon cawn gwrdd â'r rhai sydd yn aros am drawsblaniad, y rhai sydd wedi cael, a'r bobl sydd yn gweithio yn y maes yn cefnogi'r rhoddwyr a'r rhai sydd yn derbyn. Cawn wybod yn union sut beth yw byw ar y rhestr aros, a sut beth yw cael trawsblaniad - a'r cyfle am fywyd newydd. Cwmni Da, 2015. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Bywyd Newydd: Rhoi Organau (2015)
#Fi: Ben a Hollie (2013)
Cyfres ddogfen i bobl ifanc. Mae Ben yn 'sgrifennu blog ar ei wefan er mwyn rhannu ei brofiad o fod â chwaer awtistig. Mae her fawr yn ei wynebu fe a'i chwaer wrth iddyn nhw helpu i drefnu cyngerdd arbennig i godi arian tuag at awtistiaeth. Boom Cymru, 2013. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Termau Addysg Uwch
Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn darparu geiriadur ar-lein i fyfyrwyr a staff i hwyluso'r broses o astudio, addysgu ac ymchwilio drwy gyfrwng y Gymraeg ar lefel prifysgol. Mae'r geiriadur yn cynnwys termau technegol o ystod eang o feysydd academaidd, gan gynnwys Bioleg, Cemeg, Chwaraeon, y Gyfraith, Daearyddiaeth, Hanes, Busnes, Seicoleg, Rheoli Coetiroedd, y Diwydiannau Creadigol a Mathemateg a Ffiseg. Caiff ei ehangu'n gyson i gynnwys mwy o dermau a mwy o feysydd pwnc, ac fe nodir i ba faes y mae pob term yn perthyn. Ceir diffiniadau gyda'r termau hyn, gan gynnwys weithiau diagramau, hafaliadau a lluniau i egluro'r term yn well. Yn y diffiniadau, ceir dolenni at dermau eraill cysylltiedig.
Cyrchfan Cyfiawnder – Siartwyr Casnewydd 1839 (1994)
Rhaglen yn edrych ar Wrthryfel y Siartwyr yng Nghasnewydd yn 1839. Cymerodd ugain mil o wŷr y De arfau i'w dwylo er mwyn troi Ynys Prydain yn Weriniaeth y Bobl. Boddwyd gwrthyfel y Siartwyr mewn gwaed a llusgwyd yr arweinwyr i'r llysoedd. Teliesyn, 1994. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Wyneb Glyndŵr (2011)
Mae Julian Lewis Jones a thîm o arbenigwyr yn mynd ar daith ryngwladol i ddod o hyd i wyneb Owain Glyndŵr. Maent yn casglu cliwiau ar y daith ac yn bwydo'r cliwiau yn ôl i arbenigwyr fydd yn ail-greu wyneb Owain Glyndŵr o'r newydd mewn CGI. A fydd y tîm yn llwyddo? A fydd modd dod o hyd i gliwiau sydd wedi eu cuddio am ganrifoedd mewn llyfrau hanes ac archifau Ewropeaidd? Erbyn diwedd y rhaglen y nod yw dadorchuddio wyneb arwr sydd heb ei weld ers dros 600 mlynedd! Wild Dream Films, 2011. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Martha, Jac a Sianco (2008)
Ffilm bwerus, ddramatig sydd yn olrhain blwyddyn ym mywyd y ddau frawd a chwaer, Martha, Jac a Sianco, ar y fferm deuluol, Graig Ddu. Nid oes dim byd wedi newid ar y fferm ers cenedlaethau, ond mae marwolaeth Mami a'r sylweddoliad ei bod wedi gadael y ffarm yn gyfartal rhwng y tri ohonynt yn cychwyn cadwyn o ddigwyddiadau sydd yn arwain at drasiedi. Mae yna elfen gre' o arswyd yn perthyn i'r ffilm wrth i'r brain bigo yn ddidrugaredd ar ffenestri'r fferm berfedd nos, buwch yn cnoi ei thethi ei hun ac effaith y gwenwyn sydd yn cael ei osod i ladd y brain. Yn ôl yr hen goel fe fydd y gwenwyn yn lladd saith gwaith a daw hynny yn wir erbyn diwedd y ffilm. Mae'r ffilm yn seiliedig ar y nofel lwyddiannus gan Caryl Lewis. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Un Briodas (1990)
Gan John Gwilym Jones. Ffilm o'r ddrama sy'n trin a thrafod dirywiad mewn un briodas. Ffilmiau Bryngwyn, 1990. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Cymuned gan Hywel Williams (2014)
Mewn rhaglen ddogfen onest, yr hanesydd Hywel Williams fydd yn herio'r syniad bod Cymru'n genedl 'gymunedol'. Aiff Hywel ati yn ei ffordd ddihafal ei hun i ddryllio'r ddelwedd yma o Gymru fel gwlad 'gymunedol': cymuned glos, saff a mewnblyg. Ond o ble daw'r syniad yma yn y lle cyntaf ac ai ystrydeb yw'r cyfan? Drwy ddefnydd crefftus o archif, sgript, cerddoriaeth a barddoniaeth, bydd Hywel yn cyflwyno dadl ddeallusol a gweledol fydd yn codi cwestiynau ac yn tanio trafodaeth. Awen.tv, 2014. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Byw Celwydd
Cyfres sy'n portreadu gwrthdaro rhwng newyddiadurwyr, ymgynghorwyr a gwleidyddion sy'n aelodau o bleidiau dychmygol ym Mae Caerdydd. Yn dilyn etholiadau, clymblaid sydd mewn grym, rhwng tair plaid sef Y Ceidwadwyr Newydd, Y Cenedlaetholwyr a'r Democratiaid gyda'r Sosialwyr yn wrthblaid. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Mamwlad (cyfres 1) (2012)
Cyfres yn olrhain hanes merched arloesol Cymru dros y blynyddoedd. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Tynged yr Iaith (2012)
Hanner can mlynedd ar ôl darlith radio Tynged yr Iaith, lle proffwydodd Saunders Lewis ddiwedd yr iaith Gymraeg fel 'iaith fyw' erbyn dechrau'r unfed ganrif ar hugain, Adam Price sy'n edrych o'r newydd ar gyflwr yr iaith heddiw. POP1, 2012. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Cymry Rhyfel Cartref America
Hanes Rhyfel Cartref America yng ngeiriau'r miloedd o Gymry a fu'n ymladd gyda byddinoedd yr Undeb yn erbyn y gwrthryfelwyr Cynghreiriol. Dyma'r tro cyntaf i lawer o'r deunydd – llythyrau a dyddiaduron y milwyr Cymreig – weld golau dydd. Mae'r gyfres yn ffrwyth pymtheng mlynedd o ymchwil gan y cyflwynydd, Dr. Jerry Hunter, ac yn cynnig golwg Gymreig unigryw ar y trobwynt mwyaf yn hanes yr Unol Daleithiau. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
