Added on: 03/06/2020 Publish Date: - 1.2K

Llythyrau Ellis Williams (2006)

Description

Brodor o bentref Penisarwaun ym mhlwyf Llanddeiniolen yn Arfon oedd Ellis Williams. Pan oedd yn 28 oed fe'i cyhuddwyd o botsio ffesant ar dir Stad y Faenol ac yn ôl yr hanes, fe'i gorfodwyd i adael Cymru neu wynebu gweld ei deulu yn colli eu fferm, oedd yn eiddo i'r Stad. Felly, yn 1908, aeth i Batagonia, lle bu am gyfnod yn gweithio fel gaucho. Mae ei lythyrau at ei deulu'n sôn am ei fywyd caled yn marchogaeth hyd at 70 milltir y dydd ac yn byw am fisoedd o dan y sêr a hynny mewn gwlad a oedd ar y pryd yn llawn dihirod. Pan aeth pethau'n fain ar ffermwyr y Wladfa, penderfynodd hel ei bac am Awstralia. Ond 'doedd pethau ddim yn hawdd iddo yno 'chwaith fel y tystia ei lythyrau cyson. Daeth cysgod y Rhyfel Byd Cyntaf dros y tir, ac fe listiodd Ellis ym myddin Awstralia. Fe'i gyrrwyd i Ffrainc, ond parhaodd i lythyru adref hyd y dydd hwnnw pan gafodd ei ladd ym Mrwydr y Somme ac yntau'n ddim ond 38 oed. Sianco, 2006.

Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.

Documents and links:

Collection Level
Higher Education
Collection belongs to
Film, Television and Media Studies, Drama and Performance Studies, Welsh
License
ERA
S4C archive
Password Protected
mân-lun Llythyrau Ellis Williams

Subscribe/Create Account

Please fill in your details below to receive email notifications about new resources.