Added on: 03/06/2020 Publish Date: - 1.9K

Un Nos Ola' Leuad (1991)

Description

Addasiad ffilm gan Endaf Emlyn a'r diweddar Gwenlyn Parry o nofel Caradog Prichard. Wedi'i lleoli yn ardal y chwareli yn Arfon, mae 'r ffilm yn ymdriniaeth gref o rai o themâu mwyaf egr bywyd: marwolaeth, diniweidrwydd coll a gwallgofrwydd. Wrth i'r dyn di-enw (Dyfan Roberts) grwydro bro ei febyd yn ystod 'un nos ola leuad' y teitl cyfyd atgofion arswydus ambrofiadau ysgeler ac anesboniadwy'r gorffennol. Stori hen ŵr am ei blentyndod tra'n byw gyda'i fam sydd yn weddw ac yn golchi dillad i ddod â dau ben llinyn ynghyd. Mae harddwch a hagrwch yn rhan o berthynas y fam a'i mab. Er iddi fod yn hael ei chariad tuag ato, eto y mae bwlch rhyngddynt, agendor a erys er gwaetha holl ymdrechion y llanc i'w pontio.

Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.

Documents and links:

Collection Level
Higher Education
Collection belongs to
Film, Television and Media Studies, Drama and Performance Studies, Welsh
License
ERA
S4C archive
Password Protected
mân-lun S4C

Subscribe/Create Account

Please fill in your details below to receive email notifications about new resources.