Mae'r ffrae rhwng Buddug a'i thad yn poethi, i'r fath raddau ei bod yn byw ar fferm ei hewythr, ac yn poeni am ei mam a chyflwr y tir. Mae angen gwaith caled ac arian i redeg y ddwy fferm yn effeithiol a nid gosod tir i ryw gwmni ffilm uffar! Ffilmiau Bryngwyn, 1990. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Ferch Dawel (1996)
Ffilm wedi ei haddasu o nofel Marion Eames am Helen Garmon, merch sydd wedi cael ei mabwysiadu gan deulu cefnog o Gaerdydd. Pan ddaw Heledd o hyd i'w mam iawn ym mherfeddion pellenig Sir Feirionnydd, mae hi'n canfod gwirionedd syfrdanol arall sy'n rhoi tro ysgytiol i'w bywyd. Gyda Naomi Martell, Rolant Prys, Dyfan Roberts a Betsan Llwyd. Ffilmiau Llifon, 1996. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Mapiwr (1995)
Ym 1962 mae dau beth yn poeni'r bachgen 14 oed, Griff - diflaniad Alis, seren dosbarthiadau dawns ei fam, ac argyfwng Ciwba. Mae'n ceisio datrys y dirgelion o'i gwmpas trwy gynllunio mapiau. Ond mae'r mapiau yn ei hudo i fyd y tu hwnt i'w brofiadau diniwed ac mae'n darganfod yr ateb annisgwyl i ddirgelwch Alis. Gaucho Cyf, 1995. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Mynydd Grug (1995)
Mynydd yng ngogledd Arfon, gaeaf 1899. Mae Begw yn edrych ymlaen at yr eira, a'r bore wedyn mae'r byd i gyd yn wyn! Ond ble mae Sgiatan y gath? Mae'r anifail wedi boddi mewn bwced â rhew drosti. Daw clep ar y drws tu ôl iddi - adlais o'r drysau fydd yn clepio arni yn ei bywyd o hynny ymlaen... Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Plentyn Cyntaf (1990)
Ffilm yn creu darlun o'r dyfodol yw hon. Mae'r ffilm wedi'i lleoli ym mhencadlys cwmni cyffuriau mawr sydd hefyd yn glinig meddygol lle mae pobl yn cael eu defnyddio mewn arbrofion. Mae'r sefydliad mewn dyfroedd dyfnion ac mae Tomos Clay, myfyriwr sy'n gweithio yno fel swyddog diogelwch, yn meddwl am ffordd i'w achub. Ei syniad ef yw cynnal cystadleuaeth i weld pwy fydd baban cyntaf y mileniwm newydd, gan ddenu cyhoeddusrwydd gwerthfawr. Dros ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, a'r plant a anwyd fel rhan o'r gystadleuaeth bellach yn oedolion, mae yna ganlyniadau dramatig i weithredoedd Clay. Nid yw ysgwyd y gorffennol i ffwrdd mor syml ag a dybiodd. Ffilmiau Bryngwyn, 1990. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Weithred (1995)
Drama gan Meic Povey yn seiliedig ar hanes tri Chymro - Emyr Llewelyn, Owain Williams a John Albert Jones - a ymdrechodd i rwystro cynlluniau Corfforaeth Lerpwl i foddi pentref Capel Celyn yng Nghwm Tryweryn yn y Chwedegau. Opus 30, 1995. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Yma i Aros (1990)
Drama gan Michael Povey ac Emyr Huws Jones. Mae Gari wedi troi ei gefn ar yrfa mewn deuawd canu gwlad llwyddiannus, ond daw Susan, ei gyn-bartner, i chwilio amdano. Pam? Gyda Bryn Fôn a Morfydd Hughes. Ffilmiau Bryngwyn, 1990. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Ymadawiad Arthur (1994)
Wedi ei seilio yn y flwyddyn 2096 mae'r ffilm yn dilyn hanes, neu'n hytrach strach, Cymry'r dyfodol i ddarganfod 'Diwylliant Cymraeg' wedi i rhywun golli'r disg oedd yn dal yr holl wybodaeth bwysig. Mae Cymry'r dyfodol yn ceisio cael gafael ar y Brenin Arthur i arwain ei bobl ac yn danfon anffodus yn yn ôl i'r flwyddyn 1960 i ddarganfod diwylliant y werin. Cynyrchiadau'r Bae, 1994. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Tir Sir Gâr (2013)
Addasiad teledu o sgript y cynhyrchiad theatrig hynod o lwyddiannus Tir Sir Gâr. Pan mae ffermwr yn cwympo'n dost daw teulu at ei gilydd i drafod dyfodol y fferm. A fydd un o'r plant yn barod i gadw'r traddodiad teuluol yn fyw? Beth yw perthynas y genhedlaeth ifanc â'r tir? Beth sy'n cael ei golli wrth i bobl roi'r gorau i ffermio a gadael cefn gwlad? Mae'r ddrama gan Roger Williams (awdur Gwaith/Cartref) yn archwilio'r her sy'n wynebu ffermwyr a'r newidiadau cymdeithasol sy'n digwydd yng nghefn gwlad Cymru heddiw. Cast y cynhyrchiad theatr, gan gynnwys Rhian Morgan a Dewi Rhys Williams, sy'n ail-afael yn eu rhannau ar gyfer yr addasiad hwn. Joio, 2013. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Tylluan Wen (1998)
Cantores werin yw Martha sy'n dod yn ôl i ganol harddwch gerwin ei hardal enedigol yng Ngogledd Cymru er mwyn recordio albwm newydd. Ond mae darganfod pwy sy'n byw yn hen gartref y teulu yn ailagor hen glwyf ac yn ei gyrru hi ar berwyl mwy sinistr o lawer. Addasiad o Y Dylluan Wen, a enillodd Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Bro Colwyn, 1995 i'w hawdures, Angharad Jones. Nant, 1998. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Tywyll Heno (1986)
Addasiad o un o glasuron Kate Roberts. Gyda Maureen Rhys a John Ogwen. Gwraig i weinidog yw Bet, gwraig gonest sydd ers blynyddoedd wedi anwybyddu'r rhagrith sydd o'i chwmpas. Yn y diwedd, mae ei ffydd Cristnogol yn pallu gan arwain at salwch meddwl. Ffilmiau Eryri, 1986. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Un Briodas (1990)
Gan John Gwilym Jones. Ffilm o'r ddrama sy'n trin a thrafod dirywiad mewn un briodas. Ffilmiau Bryngwyn, 1990. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.