Mae'r stori'n dechrau ym 1945 gyda chaneuon Jac a Wil, Bob Tai'r Felin a chyfansoddwyr fel Meredydd Evans ac Islwyn Ffowc Elis. Y rhain ac artistiaid a chyfansoddwyr tebyg a roddodd lais a bywyd newydd i 'hwyl' y Noson Lawen. Ceir cyfraniadau gan nifer o artistiaid a Shan Cothi sy'n adrodd y stori. Huw Brian Williams, 1996. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Felin Bop [1945-1964] (1996)
Y Ferch Dawel (1996)
Ffilm wedi ei haddasu o nofel Marion Eames am Helen Garmon, merch sydd wedi cael ei mabwysiadu gan deulu cefnog o Gaerdydd. Pan ddaw Heledd o hyd i'w mam iawn ym mherfeddion pellenig Sir Feirionnydd, mae hi'n canfod gwirionedd syfrdanol arall sy'n rhoi tro ysgytiol i'w bywyd. Gyda Naomi Martell, Rolant Prys, Dyfan Roberts a Betsan Llwyd. Ffilmiau Llifon, 1996. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Graith
Drama gyfnod wedi'i seilio ar y nofel gan Elena Puw Morgan (1938). Hanes taith bywyd merch o’r enw Dori. Ar ei hwyneb hi y mae’r graith yn nheitl y ddrama: y symbol o greulondeb ei mam. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Gwyddonydd – cyfrol 33, 2013
Y Gwyddonydd, Cyfrol 33 – Rhifyn Hanner Canmlwyddiant, 1963-2013 Ymddangosodd Y Gwyddonydd, cyfnodolyn gwyddonol Cymraeg, am y tro cyntaf yn 1963, ac fe'i cyhoeddwyd yn gyson hyd at 1996. I ddathlu'r achlysur fe wnaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ariannu a chydlynu rhifyn dathlu arbennig, gan hefyd redeg cystadleuaeth gwyddonydd ifanc. Lansiwyd y rhifyn arbennig yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych, 2013.
Y Gwyll (Cyfres 1)
Cyfres ddrama dditectif gyda Richard Harrington, Mali Harries, Alex Harries a Hannah Daniel yn y prif rannau. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Llofrudd Iaith – Gwyneth Lewis
Nofel dditectif ar ffurf barddoniaeth, sy'n gyfraniad gwreiddiol a beiddgar i'r ddadl am ddyfodol yr iaith. Enillodd y casgliad wobr Llyfr y Flwyddyn Cyngor Celfyddydau Cymru yn y flwyddyn 2000. Os gall iaith farw, gall rhywun ei lladd. Pwy sy'n gyfrifol am y corff ar y grisiau a thranc ein mamiaith? Y bardd? Yr archifydd? Y ffermwr? Mae'r pentre'n llawn o sibrydion a chymhellion tywyll, ac mae bwystfil peryglus yn crwydro'r mynyddoedd. At bwy y bydd Carma, y Ditectif, yn pwyntio bys? Ydych chi'n siwr nad chi sydd ar fai?
Y Mapiwr (1995)
Ym 1962 mae dau beth yn poeni'r bachgen 14 oed, Griff - diflaniad Alis, seren dosbarthiadau dawns ei fam, ac argyfwng Ciwba. Mae'n ceisio datrys y dirgelion o'i gwmpas trwy gynllunio mapiau. Ond mae'r mapiau yn ei hudo i fyd y tu hwnt i'w brofiadau diniwed ac mae'n darganfod yr ateb annisgwyl i ddirgelwch Alis. Gaucho Cyf, 1995. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Meddwl Modern: Darwin – R. Elwyn Hughes
Charles Darwin, ym marn llawer, oedd y biolegydd mwyaf erioed. Ef a fu'n bennaf cyfrifol am gyflwyno i'r byd un o'r syniadau pwysicaf yn holl hanes bioleg – Theori Esblygiad. Disgrifir yn yr e-lyfr hwn sut y daeth i lunio'i ddamcaniaeth enwog am darddiad pethau byw a sut yr ehangodd arni, yng nghwrs ei yrfa, i gofleidio holl weithgareddau dyn ei hun. Trafodir ei le yng ngwyddoniaeth ei gyfnod, a'r ymateb i'w syniadau. Ystyrir hefyd i ba raddau y bu i amgylchiadau personol a chymdeithasol ei gynorthwyo a'i lesteirio yn ei waith.
Y Meddwl Modern: Lenin – W. J. Rees
Lenin oedd y gwleidydd cyntaf mewn unrhyw wlad i greu chwyldro ar sail egwyddorion Karl Marx. Ai llwyddiant ai methiant fu'r hyn a gyflawnodd ef rhwng 1917 a'i farw ym 1924? Cyn y gellir gosod llinyn mesur ar yr hyn a wnaeth, y mae angen deall yr amgylchiadau y digwyddodd y Chwyldro Comiwnyddol ynddynt, amgylchiadau a oedd yn bur wahanol i'r rhai lle disgwyliasai Marx weld gweithredu ei syniadau. Disgrifir yn y gyfrol hon gyflwr pethau yn Rwsia cyn y Chwyldro, gan amlinellu'n gryno ddatblygiad y gymdeithas a'i sefydliadau. Eir ymlaen i roi braslun o yrfa gyffrous Lenin ac olrheinir rhediad ei syniadau wrth iddo ymlafnio i droi dadansoddiad Marx yn rhaglen o weithredu ymarferol.
Y Meddwl Modern: Wittgenstein – Walford Gealy
Cyfrifir Ludwig Wittgenstein gan lawer yn athrylith hynotaf yr ugeinfed ganrif mewn athroniaeth. Y mae hefyd yn unigryw yn ei faes gan iddo greu nid un athroniaeth ond dwy, y ddwy yn wreiddiol, dylanwadol a gwrthgyferbyniol. Ceisir yn y gyfrol hon esbonio mewn iaith seml ei ddau safbwynt sydd i'w gweld yn Tractatus Logico-Philosophicus ac yn yr Ymchwiliadau Athronyddol.
Y Mynydd Grug (1995)
Mynydd yng ngogledd Arfon, gaeaf 1899. Mae Begw yn edrych ymlaen at yr eira, a'r bore wedyn mae'r byd i gyd yn wyn! Ond ble mae Sgiatan y gath? Mae'r anifail wedi boddi mewn bwced â rhew drosti. Daw clep ar y drws tu ôl iddi - adlais o'r drysau fydd yn clepio arni yn ei bywyd o hynny ymlaen... Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Pianydd Llŷr Williams (2006)
Portread o'r pianydd ifanc disglair Llŷr Williams, a ddisgrifiwyd yn mhapur The Times fel 'un a fydd bron yn sicr ryw ddydd yn un o'r mawrion.' Bu'r Cymro 29 oed o Bentrebychan, Sir y Fflint, yn astudio cerddoriaeth yng Ngholeg y Frenhines, Rhydychen, ac yn yr Academi Gerdd Frenhinol. Wrth astudio, enillodd yr holl wobrau posibl a graddio yn 2000 gyda Dip RAM, cymhwyster ucha'r Academi. Yn 2004 dewiswyd LlÅ·r fel Artist Cenhedlaeth Newydd y BBC ac yn 2005 fe enillodd wobr gyntaf MIDEM Classique mewn partneriaeth gydag IAMA ar gyfer 'Yr Artist Ifanc Eithriadol'. Mae ei berfformiad o weithiau Mozart yn hudol. Opus, 2006. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.