100 mlynedd wedi marwolaeth Hedd Wyn, Ifor ap Glyn sy'n olrhain hanes ei fywyd. Yn 2013, gwerthodd nai Hedd Wyn, Gerald Williams, Yr Ysgwrn i Barc Cenedlaethol Eryri. Dyma lle magwyd y bardd, a chawn weld sut y cafodd y ffermdy a'r tai allan eu trawsnewid yn ganolfan i ymwelwyr fodern, i warchod etifeddiaeth Hedd Wyn i'r dyfodol. Dilynwn ôl troed y bardd i Abercynon, i ddysgu am y tri mis y treuliodd yno fel glöwr, cyn symud ymlaen i Lerpwl i ymweld â rhai o'r lleoliadau a fyddai wedi bod yn gyfarwydd iddo yn ystod ei gyfnod yno yn hyfforddi fel milwr. Yn Ffrainc a Belg, dilynwn gamau olaf y bardd, a chlywed am y modd y cwblhaodd ei awdl fuddugol i Eisteddfod Genedlaethol 1917 tra'n martshio i gyfeiriad y frwydr a fyddai'n hawlio ei fywyd. Tra bod Hedd Wyn ei hun wedi tyfu yn eicon cenedlaethol, felly hefyd y gadair a enillodd yn Eisteddfod Birkenhead - Y Gadair Ddu. Yn Sanclêr, ar ymweliad â gweithdy Hugh Hayley, y dyn sy'n gyfrifol am y gwaith adfer arni, caiff Ifor ryfeddu ar waith cerfio cywrain y Belgiad Eugeen Vanfleteren, ffoadur o'r rhyfel a ymsefydlodd yn Birkenhead ac a gomisynwyd i greu'r Gadair. Gyda chymorth rhai o lythyrau'r bardd, erthyglau papur newydd, a chyfweliadau prin a recordiwyd gyda'i ffrindiau a'i deulu yn ystod y 60au a'r 70au, mae Ifor yn ail-asesu bywyd ac etifeddiaeth y bardd. Pam fod y stori hon yn parhau i gydio yn'om ni? Beth fyddai Hedd Wyn wedi ei gyflawni petai ond wedi cael byw? Efallai bod rhain yn gwestiynau na ellir eu hateb yn llawn, ond mae un peth yn sicr, y bydd enw Hedd Wyn yn parhau i atsain ar hyd yr oesau. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Hedd Wyn: Canrif o Gofio
Hope (2007)
Yr asgellwr rhyngwladol, Shane Williams, a'r actor Richard Harrington yw sêr y ddrama newydd hon gan Karl Francis. Mae Hope, sydd ar ffurf drama ddogfen, yn adrodd stori emosiynol meddyg o Gymru sy'n syrthio mewn cariad â Hope, nyrs o Fadagascar, tra'n gweithio i'r elusen Médecins Sans Frontières yn y Congo. Mae eu perthynas yn arwain at hapusrwydd a thrasiedi. Rygbi yw un o brif themâu Hope, a saethwyd ar leoliad yn Affrica a Chymru. Gydag isdeitlau. Bloom Street, 2007. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Dirgelwch yr Ogof (2002)
Dwy ganrif yn ôl yn ne Ceredigion: lle yn llawn tlodi a smyglwyr. Mae mab stad y Glascoed, Harri, yn dychwelyd o'i deithiau tramor i ddarganfod fod y stad mewn trafferthion ariannol a bod disgwyl iddo ef briodi merch gyfoethog leol. Ffilm yn llawn antur a rhamant wedi'i haddasu o glasur T. Llew Jones, gyda Huw Rhys, Lowri Steffan a Mali Harries. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Dŵr a Thân (1992)
Gŵr a gwraig o Gymru ar eu gwyliau mewn maes pebyll yn Llydaw, yn cyfarfod a rhannu profiadau a phroblemau teulu o wlad Pwyl, sydd yn westeion i lywodraeth Ffrainc, yn dathlu dymchwel y wal. Gan Emyr Humphreys. Gyda Mei Jones, Mari Rowland Hughes, Tom Richmond, Buddug Povey, Iola Gregory a Dyfan Roberts. Ffilmiau Bryngwyn, 1992. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Dyddiadur Dyn Dwad (1989)
Perthynas arbennig Goronwy Jones efo crach Cymraeg Caerdydd. Am y tro cynta ers deng mlynedd mentrodd y Cofi o Gaernarfon yn ol i'r brif-ddinas... Er gwell, er gwaeth. Addasiad o nofel Goronwy Jones. Talisein, 1989. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Fel 'Stafell (1999)
Drama rymus sy'n portreadu dyn sy'n troi at alcohol wrth geisio ymdopi â marwolaeth ei wraig. Owen Garon sy'n chwarae'r prif rôl. Bracan, 1999. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Fondue, Rhyw a Deinosors (1991)
Cyfres ddrama sy’n dilyn hynt a helynt chwech o bobl yn eu tridegau sydd yn byw ym mhentref gwledig Llaneden. Cawn gipolwg ar fywydau’r tri chwpwl wrth iddynt ymgodymu â bywyd pentrefol. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Gadael Lenin (1993)
Ffilm gafodd ei ffilmio'n gyfan gwbl ar leoliad yn St Petersburg. Hon oedd y ffilm gyntaf o'r Gorllewin i gael ei ffilmio yn y Rwsia newydd wedi cwymp Comiwnyddiaeth. Mae'r ffilm yn dilyn hynt a helynt tri athro a chriw o ddisgyblion ar daith i ddarganfod trysorau celf St Petersburg. Fodd bynnag, cyn gynted ag y maent yn cyrraedd, mae rhywbeth annisgwyl yn digwydd gan wasgaru pawb i gyfeiriadau gwahanol a chreu dwy lefel ar gyfer dehongli'r ffilm. Gyda Sharon Morgan, Steffan Trefor, Wyn Bowen Harris, Ifan Huw Dafydd, Richard Harrington, Geraint Francis ac Ivan Schvedov. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Blodeuwedd (1990)
Ffilm o'r ddrama Blodeuwedd gan Saunders Lewis, wedi'i selio ar chwedl y Mabinogi am y ferch a wnaethpwyd allan o flodau. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Branwen (1994)
Mae dau genedlaetholwr yn priodi - Branwen o Gymru a Kevin o Belfast - ond mae brawd Branwen, Mathonwy, yn filwr yn y fyddin Brydeinig. Mae'r gwrthdaro rhwng teyrngarwch gwleidyddol a theuluol yn tanio Branwen. Y Mabinogi yn dod i'r presennol ac yn bygwth y genhedlaeth newydd. Teliesyn, 1994. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Byw Celwydd
Cyfres sy'n portreadu gwrthdaro rhwng newyddiadurwyr, ymgynghorwyr a gwleidyddion sy'n aelodau o bleidiau dychmygol ym Mae Caerdydd. Yn dilyn etholiadau, clymblaid sydd mewn grym, rhwng tair plaid sef Y Ceidwadwyr Newydd, Y Cenedlaetholwyr a'r Democratiaid gyda'r Sosialwyr yn wrthblaid. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Caerdydd (Cyfres 1) (2006)
Cyfres am griw o ffrindiau yn eu hugeiniau sy'n byw mewn fflatiau crand ym Mae Caerdydd. Dilyna’r gyfres y criw - Peter, Emyr, Osian, Ceri, Lea & Elen – wrth eu gwaith (amrywiol) bob dydd a’u bywydau personol, cyffrous, gyda’r nos. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.