Mae’r adnodd hwn ar gyfer dysgwyr a phrentisiaid sy’n astudio cymwysterau Adeiladwaith Lefel 3, ynghyd â’r staff sy’n eu cefnogi. Mae’n cynnig cyfle i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o wahanol agweddau ar y diwydiant adeiladu, o arferion adeiladu, iechyd, diogelwch a lles i’r sector hwn yng Nghymru.
Mae’r adnodd rhyngweithiol dwyieithog hwn yn cynnwys gwybodaeth, gweithgareddau ac adnoddau dysgu ar draws y pum uned ganlynol:
- 301: Deall Arferion Adeiladu yng Nghymru
- 302: Gweithio yn y Sector Adeiladu yng Nghymru
- 304: Cydymffurfio ag iechyd, diogelwch a lles cyffredinol yn y gweithle
- 305: Cydymffurfio ag arferion gwaith cynhyrchiol
- 306: Symud, trin neu storio adnoddau.
Nod yr adnodd yw cefnogi dysgwyr yn eu hastudiaethau a’u hannog i ddefnyddio cymaint o’r cynnwys â phosibl drwy gyfrwng y Gymraeg.
