Ychwanegwyd: 03/06/2020 Dyddiad cyhoeddi: 2017 752

Arddun Hedydd Arwyn, 'Cystadlaethau cof - naratif a hanes yn Amgueddfa Heimat Wehlau: Negodi hanes a chof cymhleth yr Almaen yn yr ugeinfed ganrif' (2017)'

Disgrifiad

Rhwng 1945 a 1948 gorfodwyd i hyd at ddeuddeg miliwn o Almaenwyr a oedd yn trigo yn Nwyrain Ewrop fudo yn dilyn newidiadau a wnaed i ffiniau'r wlad. Daeth nifer o'r Almaenwyr hyn i fyw yng Ngweriniaeth Ffederal yr Almaen, lle y'u gelwid yn 'allwladwyr'. I goffáu eu mamwlad golledig, agorwyd amgueddfeydd bychain yn cynrychioli'r ardaloedd yr allwladwyd hwy ohonynt. Mae'r erthygl hon yn trafod y portread o gof a hanes yn amgueddfa tref Wehlau a oedd yn Nwyrain Prwsia. Drwy ymchwilio themâu fel cynrychioliad y famwlad, yr Ail Ryfel Byd ac integreiddiad yr Almaenwyr hyn i Orllewin yr Almaen, bydd yr erthygl hon yn trafod y tebygrwydd, y gwahaniaethau a'r tensiynau rhwng diwylliant cof yr allwladwyr a diwylliant cof yr Almaen yn ehangach. Arddun Hedydd Arwyn, '“Cystadlaethau cof”, naratif a hanes yn Amgueddfa Heimat Wehlau: Negodi hanes a chof cymhleth yr Almaen yn yr ugeinfed ganrif', Gwerddon, 25, Hydref 2017, 45–69. Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Hanes
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Erthygl 'Gwerddon'
mân-lun cyfrol gwerddon 25

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.