Ychwanegwyd: 03/06/2020 Dyddiad cyhoeddi: - 854

John Rhidian Thomas a Siân W. Griffiths, 'Anifeiliaid ymledol a'u heffeithiau ar ecosystemau d?r croyw Prydain' (2017)

Disgrifiad

Cyflwyno rhywogaethau anfrodorol yw un o'r bygythiadau mwyaf sylweddol a wyneba bioamrywiaeth byd eang. Ceir effaith sylweddol ar ecosystemau d?r croyw, oherwydd cyflwynir nifer fawr o rywogaethau i lynnoedd ac afonydd ar gyfer dyframaethu a physgota. Yn yr erthygl hon, disgrifir yr anifeiliaid d?r croyw anfrodorol hynny sy'n bresennol ac yn ymledu ym Mhrydain, neu sy'n debygol o ymsefydlu dros y blynyddoedd nesaf. Esbonnir sut effaith y caiff yr anifeiliaid hyn ar ecosystemau d?r croyw ac economi Prydain, gan hefyd amlygu'r problemau hynny sy'n dod i'r amlwg wrth geisio rheoli'r ymledwyr. Trafodir hefyd sut y bydd newid hinsawdd a bygythiadau eraill yn effeithio ar ddosbarthiad rhywogaethau ymledol yn y dyfodol. John Rhidian Thomas a Siân W. Griffiths, 'Anifeiliaid ymledol a'u heffeithiau ar ecosystemau d?r croyw Prydain', Gwerddon, 25, Hydref 2017, 7–29.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Gwyddorau Amgylcheddol, Gwyddorau Biolegol
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Erthygl 'Gwerddon'
mân-lun cyfrol gwerddon 25

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.