Ychwanegwyd: 03/06/2020 Dyddiad cyhoeddi: 2012 941

Arwyn Edwards et al., 'Darogan cyfraniadau rhewlifoedd olaf Eryri i gylchredoedd carbon Cyfnod y Dryas Diweddaraf' (2012)

Disgrifiad

Ceir cefnogaeth gref i'r cysyniad o ecosystemau rhewlifol drwy fesuriadau o gyfraddau sylweddol o gylchu carbon a maetholynnau ar rewlifoedd cyfoes. Serch hynny, ni roddwyd llawer o ystyriaeth i bwysigrwydd posibl y cyfraniadau hyn yn ystod cyfnodau cynt o rewlifiant. Felly modelwyd cynefinoedd a llifoedd carbon ar rai o baleorewlifoedd gogledd Cymru o'r Dryas diweddaraf. Amcangyfrifwyd amsugniad net o 30-180 kg C fesul CO2 y flwyddyn ac allyriad methan rhwng 265-1591 g C fel CH4. Mae hyn yn pwysleisio'r posibilrwydd o gylchu carbon ar rewlifoedd diweddaraf Cymru ond gellir ymestyn ar hyn drwy wella ein sail data cyfoes, archwilio biofarcwyr o fewn gwaddodion a mewngorffori'r data i fodelau llif thermomecanig o ddeinameg rhewlifoedd y Defensaidd. Arwyn Edwards, Sara M. Rassner, Tristram D. L. Irvine-Fynn, Hefin Wyn Williams a Gareth Wyn Griffith, 'Darogan cyfraniadau rhewlifoedd olaf Eryri i gylchredoedd carbon Cyfnod y Dryas Diweddaraf', Gwerddon, 12, Rhagfyr 2012, 53-78

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Daearyddiaeth, Gwyddorau Biolegol
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Erthygl 'Gwerddon'
mân-lun cyfrol gwerddon 12

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.