Ychwanegwyd: 03/06/2020 Dyddiad cyhoeddi: 2017 888

Ben Screen, 'Effaith defnyddio Cofion Cyfieithu ar y broses gyfieithu: Ymdrech a chynhyrchiant wrth gyfieithu i'r Gymraeg' (2017)

Disgrifiad

Mae cyfieithu i'r Gymraeg wedi tyfu bellach yn ddiwydiant pwysig, ac mae nifer o ymchwilwyr wedi cysylltu cyfieithu ag ymdrechion ehangach ym maes cynllunio ieithyddol. Mae'r oes dechnegol hefyd wedi gwyrdroi sut y mae cyfieithu'n digwydd yn rhyngwladol, ac mae nifer o'r datblygiadau hyn hefyd wedi cyrraedd Cymru. Bwriad yr erthygl hon felly, gan gadw mewn cof bwysigrwydd cyfieithu i gynllunio ieithyddol yng Nghymru, yw ymchwilio i'r effaith y mae Cofion Cyfieithu yn ei chael ar agweddau penodol ar y broses o gyfieithu i'r Gymraeg, gan ofyn a oes lle i'r dechnoleg hon mewn cyd-destun proffesiynol. Pa gyfraniad a all y dechnoleg ei wneud, felly, i gyfieithu a chynllunio ieithyddol yng Nghymru? Ben Screen, 'Effaith defnyddio Cofion Cyfieithu ar y broses gyfieithu: Ymdrech a chynhyrchiant wrth gyfieithu i'r Gymraeg', Gwerddon, 23, Mawrth 2017, 10-35.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Cymraeg, Astudiaethau Cyfieithu
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Erthygl 'Gwerddon'
mân-lun cyfrol gwerddon 23

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.