Ychwanegwyd: 31/03/2023 Dyddiad cyhoeddi: 2023 2K Dwyieithog

Dewisa Lefel A Cymraeg: Ymgyrch ac adnoddau

Disgrifiad

Ymgyrch a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw Dewisa Lefel A Cymraeg sy'n ceisio annog rhagor o ddysgwyr ifanc i astudio Lefel A Cymraeg drwy ddarparu adnoddau hyrwyddo i godi ymwybyddiaeth o’r manteision di-ben-draw sydd gan yr iaith i fywyd academaidd, gwaith a chyfleoedd diwylliannol.

Mae gan yr ymgyrch, a lansiwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru, gynnwys y gall athrawon ac ysgolion ei ddefnyddio fel ffordd o ennyn diddordeb dysgwyr, rhieni a gofalwyr yn y Gymraeg drwy’r canlynol:

  • Tynnu sylw at y ffaith bod Lefel A Cymraeg yn agor drysau i gyfoeth o lwybrau prifysgol
  • Pwysleisio’r amrywiaeth o yrfaoedd a diwydiannau lle mae’r Gymraeg yn sgil gwerthfawr iawn
  • Rhoi cipolwg ar ehangder ac amrywiaeth cwricwlwm Lefel A Cymraeg
  • Arddangos Lefel A Cymraeg fel pwnc modern, creadigol a pherthnasol
  • Gwahodd dysgwyr i ymuno â chymuned lewyrchus o siaradwyr Cymraeg sy’n angerddol am eu diwylliant, eu treftadaeth a’r iaith

Mae'r adnoddau yn cynnwys:

  • Cynnwys gweledol: instazines, cardiau proffil, dyfyniadau, negeseuon holi ac ateb, negeseuon chwilio
  • Fideos
  • Posteri amrywiol
  • Asedau cyfryngau cymdeithasol (GIFs)
  • Pecyn cymorth athrawon

Gellir defnyddio a rhannu'r adnoddau yn ddigidol neu mewn print, ar y cyfryngau cymdeithasol neu drwy eu hymgorffori mewn cyflwyniadau a phrospectws.

Mae'r holl gynnwys ar gael yn ddwyieithog i'w lawrlwytho drwy'r ddolen Dropbox isod.

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch neu am y Gymraeg fel pwnc yn gyffredinol, cysylltwch â Dr Ffion Eluned Owen, Swyddog Hyrwyddo’r Gymraeg fel Pwnc y Coleg: ff.owen@colegcymraeg.ac.uk.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
UG/Safon Uwch
Perthyn i
Cymraeg
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Popeth
Dewisa Lefel A Cymraeg: Ymgyrch ac adnoddau

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.