Ychwanegwyd: 05/05/2020 Dyddiad cyhoeddi: 2016 948

Genres y Cywydd

Disgrifiad

Casgliad o ddetholiad o ysgrifau beirniadol thematig a gyhoeddwyd dros y blynyddoedd yn y cylchgrawn Dwned, sef cylchgrawn hanes a llên Cymru’r Oesoedd Canol. Mae’r 14 o ysgrifau yn trafod agweddau ar fathau penodol o gywyddau cyfnod Beirdd yr Uchelwyr. Ceir trafodaeth gyffredinol ar y gwahanol genres a geid yn y cyfnod, ffugfarwnadau, canu i noddwr penodol, ymrysonau barddol, cerddi i drefi, cywyddau i farfau a gynnau, cerddi am ferched a phenwisgoedd merched, cerddi am blant, cerddi am chwarae cardiau a gemau bwrdd, cerddi i adar fel llateion, ac ymdriniaeth â chywydd enwog Dafydd ap Gwilym, ‘Trafferth mewn tafarn’.

Mae’r adnodd yn ddefnyddiol i fyfyrwyr Chweched Dosbarth a myfyrwyr prifysgol, i athrawon ac academyddion.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch, UG/Safon Uwch
Perthyn i
Cymraeg
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg E-lyfr
Genres y Cywydd

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.