Ychwanegwyd: 13/12/2022 Dyddiad cyhoeddi: 2022 1.5K Cymraeg Yn Unig

Gweminar Astudio Cymraeg yn y brifysgol (2022)

Disgrifiad

Ym mlwyddyn 12 neu 13? Eisiau gwybod mwy am astudio Cymraeg fel pwnc yn y brifysgol? Dewch i gael mwy o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael, ac i glywed barn ein llysgenhadon sy'n astudio'r pwnc am eu cyrsiau a'u bywyd fel myfyrwyr y Gymraeg.

Cyflwyniad a recordiwyd ym mis Tachwedd 2022. Mae'n cynnwys:

  • Cyflwyniad am astudio Cymraeg yn y brifysgol (hyd at 29 munud) e.e. Lle mae modd astudio? Beth sydd modd ei astudio - o ran cyrsiau a modiwlau? Pa gymorth ariannol sydd ar gael?
  • Sgwrs rhwng ein interniaid (Aled a Hari) â'n llysgenhadon cyfredol am astudio Cymraeg yn y brifysgol (19 munud ymlaen)

Cyflwyniad cyfrwng Cymraeg yng nghwmni Aled (Prifysgol Bangor); Hari a Deio (Prifysgol Caerdydd); Elain (Prifysgol Aberystwyth); a Cara ac Elen (Prifysgol Abertawe).

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch, UG/Safon Uwch
Perthyn i
Cymraeg
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Gweithdy/Gweminar
Mân Lun Gweminar Cymraeg 2022

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.