Ychwanegwyd: 02/09/2021 Dyddiad cyhoeddi: 2021 1.5K Dwyieithog

Say it in Cymraeg

Disgrifiad

Datblygwyd yr adnoddau canlynol gan Addysg Oedolion Cymru (Adult Learning Wales) i gefnogi tiwtoriaid i ymgorffori'r Gymraeg yn eu darpariaeth. Mae'r gyfres posteri 'Say it in Cymraeg' yn canolbwyntio’n benodol ar eirfa. Gellir defnyddio'r posteri hyn fel delweddau mewn cyflwyniadau fel Prezi neu PowerPoint, wedi'u lamineiddio fel adnoddau ystafell ddosbarth, eu defnyddio yn ystod y cyfnod sefydlu, gweithgareddau torri iâ, ymarferion gloywi, eu defnyddio fel gair / geiriau Cymraeg y dydd a llawer mwy. Mae rhai yn restrau cyffredinol y gellir eu defnyddio gan bob tiwtor e.e. diwrnodau, dyddiadau a misoedd, tra bod eraill yn ymwneud â maes pwnc penodol, e.e. gwnïo. Mae gan un o’r adnoddau, ‘Ateb y Ffôn’ elfen ryngweithiol sain hefyd, felly gallwch ymarfer yr ynganiad (noder, ni fydd y sain yn gweithio wrth agor y ddogfen mewn porwr gwe, bydd angen agor y PDF yn defnyddio darllenydd PDF fel Adobe Reader i gael mynediat at y sain). 

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Ôl-16 a Galwedigaethol
Perthyn i
Cymraeg
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Casgliad
logo addysg oedolion cymru

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.