Ychwanegwyd: 03/06/2020 Dyddiad cyhoeddi: - 742

Tir Sir Gâr (2013)

Disgrifiad

Addasiad teledu o sgript y cynhyrchiad theatrig hynod o lwyddiannus Tir Sir Gâr. Pan mae ffermwr yn cwympo'n dost daw teulu at ei gilydd i drafod dyfodol y fferm. A fydd un o'r plant yn barod i gadw'r traddodiad teuluol yn fyw? Beth yw perthynas y genhedlaeth ifanc â'r tir? Beth sy'n cael ei golli wrth i bobl roi'r gorau i ffermio a gadael cefn gwlad? Mae'r ddrama gan Roger Williams (awdur Gwaith/Cartref) yn archwilio'r her sy'n wynebu ffermwyr a'r newidiadau cymdeithasol sy'n digwydd yng nghefn gwlad Cymru heddiw. Cast y cynhyrchiad theatr, gan gynnwys Rhian Morgan a Dewi Rhys Williams, sy'n ail-afael yn eu rhannau ar gyfer yr addasiad hwn. Joio, 2013.

Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Astudiaethau Ffilm, Teledu a Chyfryngau, Drama ac Astudiaethau Perfformio, Cymraeg
Trwydded
ERA
Archif S4C
Password Protected
mân-lun S4C

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.