Cyfres o saith erthygl gan arbenigwyr yn y maes, yn trafod agweddau ar gyfieithu, technolegau cyfieithu a hanes a sefyllfa'r diwydiant yng Nghymru. Mae'r cyfraniadau yn seiliedig ar waith ymchwil y cyfranwyr, ac ar gyflwyniadau a roddwyd ganddynt wrth hyfforddi myfyrwyr a chyfieithwyr mewn sesiynau ar gyfer Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a chwrs Tystysgrif Ôl-radd Astudiaethau Cyfieithu a Thechnoleg Cyfieithu Prifysgol Bangor. Cyfrol wreiddiol sydd ar gael ar ffurf e-lyfr yn unig.Mae'r penodau fel a ganlyn: Pennod 1: Cyd-destun gwleidyddol a chymdeithasol cyfieithu yn y Gymru gyfoes – Tegau Andrews, Pennod 2: Cyweiriau Iaith y Gymraeg – Robat Trefor, Pennod 3: Geiriaduron, termiaduron ac adnoddau defnyddiol eraill – Delyth Prys, Pennod 4: Meddalwedd a Thechnoleg Cyfieithu – Gruffudd Prys, Delyth Prys, Pennod 5: Golygu a Phrawfddarllen – Mared Roberts, Pennod 6: Theori ac ymarfer cyfieithu yng Nghymru heddiw – Sylvia Prys Jones,Pennod 7: Oes Rhywun yn Darllen? – Heini Gruffudd.
Ysgrifau a Chanllawiau Cyfieithu – Delyth Prys a Robat Trefor
Ysgrifau ar Ieithyddiaeth a Geiriaduraeth Gymraeg – Delyth Prys (gol.)
Ysgrifau ar Ieithyddiaeth a Geiriaduraeth Gymraeg – Delyth Prys (gol.)
Cyfres o saith erthygl gan arbenigwyr yn y maes, yn trafod agweddau ar ramadeg y Gymraeg, gwahanol gyweiriau, geiriadura, a datblygiad iaith. Traddodwyd yn wreiddiol fel cyfres darlithoedd y Gîcs Gramadeg dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Ysgrifau Dydd Mercher – Saunders Lewis
Casgliad o adolygiadau ac ysgrifau cofiannol gan Saunders Lewis a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn Y Faner rhwng 1939 ac 1945. Noda Saunders Lewis yn y cyflwyniad iddo ddewis casgliad ar thema llên a hanes y gorffennol, a dyna sy'n clymu'r ysgrifau heriol hyn.
Gwefan Y Bywgraffiadur Cymreig
Mae’r wefan hon yn cynnwys dros bum mil o fywgraffiadau cryno sy’n cyflwyno unigolion a wnaeth gyfraniad pwysig i fywyd cenedlaethol yng Nghymru neu’n ehangach.
Mae Llinell Amser ryngweithiol sy'n arddangos unigolion o'r Bywgraffiadur ar gael nawr. Gyrrir y llinell gan ddata agored cysylltiedig a chynnwys agored sy’n dod o brosiectau Wikimedia.
Y Cadfridog (1984)
Drama gan Michael Povey. Milwr ifanc a swyddog hÅ·n wedi eu hynysu mewn byncar niwclear wedi cyflafan. Mae'r berthynas rhyngddynt yn datblygu... Cwmni Alan Clayton, 1984.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Dyn Perig (1990)
Mae'r ffrae rhwng Buddug a'i thad yn poethi, i'r fath raddau ei bod yn byw ar fferm ei hewythr, ac yn poeni am ei mam a chyflwr y tir. Mae angen gwaith caled ac arian i redeg y ddwy fferm yn effeithiol a nid gosod tir i ryw gwmni ffilm uffar! Ffilmiau Bryngwyn, 1990.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Ferch Dawel (1996)
Ffilm wedi ei haddasu o nofel Marion Eames am Helen Garmon, merch sydd wedi cael ei mabwysiadu gan deulu cefnog o Gaerdydd. Pan ddaw Heledd o hyd i'w mam iawn ym mherfeddion pellenig Sir Feirionnydd, mae hi'n canfod gwirionedd syfrdanol arall sy'n rhoi tro ysgytiol i'w bywyd. Gyda Naomi Martell, Rolant Prys, Dyfan Roberts a Betsan Llwyd. Ffilmiau Llifon, 1996.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Graith
Drama gyfnod wedi'i seilio ar y nofel gan Elena Puw Morgan (1938). Hanes taith bywyd merch o’r enw Dori. Ar ei hwyneb hi y mae’r graith yn nheitl y ddrama: y symbol o greulondeb ei mam.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Gwyll (Cyfres 1)
Cyfres ddrama dditectif gyda Richard Harrington, Mali Harries, Alex Harries a Hannah Daniel yn y prif rannau.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Llofrudd Iaith – Gwyneth Lewis
Nofel dditectif ar ffurf barddoniaeth, sy'n gyfraniad gwreiddiol a beiddgar i'r ddadl am ddyfodol yr iaith. Enillodd y casgliad wobr Llyfr y Flwyddyn Cyngor Celfyddydau Cymru yn y flwyddyn 2000. Os gall iaith farw, gall rhywun ei lladd. Pwy sy'n gyfrifol am y corff ar y grisiau a thranc ein mamiaith? Y bardd? Yr archifydd? Y ffermwr? Mae'r pentre'n llawn o sibrydion a chymhellion tywyll, ac mae bwystfil peryglus yn crwydro'r mynyddoedd. At bwy y bydd Carma, y Ditectif, yn pwyntio bys? Ydych chi'n siwr nad chi sydd ar fai?
Y Mapiwr (1995)
Ym 1962 mae dau beth yn poeni'r bachgen 14 oed, Griff - diflaniad Alis, seren dosbarthiadau dawns ei fam, ac argyfwng Ciwba. Mae'n ceisio datrys y dirgelion o'i gwmpas trwy gynllunio mapiau. Ond mae'r mapiau yn ei hudo i fyd y tu hwnt i'w brofiadau diniwed ac mae'n darganfod yr ateb annisgwyl i ddirgelwch Alis. Gaucho Cyf, 1995.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Mynydd Grug (1995)
Mynydd yng ngogledd Arfon, gaeaf 1899. Mae Begw yn edrych ymlaen at yr eira, a'r bore wedyn mae'r byd i gyd yn wyn! Ond ble mae Sgiatan y gath? Mae'r anifail wedi boddi mewn bwced â rhew drosti. Daw clep ar y drws tu ôl iddi - adlais o'r drysau fydd yn clepio arni yn ei bywyd o hynny ymlaen...
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.