Mae pecyn 'Animo' yn cynnwys gwerslyfr, llyfr gwaith gramadeg ac atebion i'r llyfr gwaith gramadeg. Maent yn: cynnig cefnogaeth cynhwysfawr o ran sgiliau a gramadeg, ac yn cefnogi'r myfyrwyr i ddeall a thrin iaith newydd; cefnogi sgiliau dysgu annibynnol; darparu profion diwedd thema i fesur cynnydd. Wedi eu hanelu yn bennaf at ymgeiswyr Uwch Gyfrannol/Safon Uwch Sbaeneg, maent hefyd o fudd i fyfyrwyr sy'n astudio cyrsiau gradd Sbaeneg drwy gyfrwng y Gymraeg. Oherwydd gofynion hawlfraint, bydd angen i chi gael cyfrinair i gael mynediad at adnoddau Animo. Cwblhewch y ffurflen electroneg a bydd y Coleg yn anfon y cyfrinair atoch.
Animo (adnoddau Sbaeneg/Cymraeg)
Botwm y Byd
Cyfres o adnoddau i addysgu’r Cyfryngau Newydd, Ieithoedd Modern a Gwleidyddiaeth cyfrwng Cymraeg. Mae tair prif adran: Byd Bach, Pedwar Ban ac Adnoddau Addysgu. Mae Byd Bach yn gyfres o ddarllediadau, gyda'r cyfranwyr yn crynhoi mewn cwta 7-10 munud brif straeon y wasg mewn gwlad arbennig, gan roi sylw penodol i straeon rhyngwladol. Mae Pedwar Ban hefyd yn cynnwys darllediadau: gwahoddwyd y cyfranwyr i ddarllen drwy bapurau gwahanol wledydd y byd, gan ddod at ei gilydd i drafod rhai o’r prif straeon. Ceir hefyd gyfres o ymarferion rhyngweithiol, taflenni gwaith traddodiadol a rhestrau geirfa, ynghyd â fideos gyrfa.