Mae’r erthygl hon yn defnyddio theatr fel modd i fewnsyllu ar gyfnewidfa ddiwylliannol Cymru a Bryniau Casia a Jaiñtia a wreiddir yn hanes Cenhadaeth Dramor y Methodistaid Calfinaidd Cymreig yng ngogledd-ddwyrain India rhwng 1841 ac 1969. Gan ganolbwyntio ar ddramâu Casi o’r cyfnod trefedigaethol yn ogystal ag enghraifft o berfformiad cenhadol a lwyfannwyd yng Nghymru yn 1929, cwestiynir i ba raddau y dylanwadodd canfyddiadau’r Cymry o theatr a’r ddrama ar berfformio brodorol Bryniau Casia, ac yn yr un modd, i ba raddau y dylanwadodd canfyddiad y cenhadon o India ar y syniad a’r gynrychiolaeth o’r wlad honno mewn portreadau perfformiadol ohoni yng Nghymru.
Lisa Lewis, 'O’r ddrama gymdeithasol i’r pasiant: theatr yn y gyfnewidfa ddiwylliannol rhwng Cymru a gogledd-d...
Anwen Jones, 'Cymru, cenedligrwydd a theatr genedlaethol: Dilyn y gwys neu dorri cwys newydd?' (2011)
Mae'r erthygl hon yn astudiaeth o'r berthynas rhwng cenedligrwydd a theatr genedlaethol yng Nghymru o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd at y presennol. Ystyrir cenedligrwydd Cymreig yng nghyd-destun y drafodaeth gyfoes ar gysyniadau o'r genedl gan feirniaid blaengar Umut Okirimli a Hans Kohn. Amcan yr erthygl yw archwilio'r cwestiynau hanfodol sy'n codi yn sgil y berthynas hanesyddol a chyfredol rhwng theatr genedlaethol, fel ymarfer celfyddydol, a mynegiant gwleidyddol o hunaniaeth genedlaethol yng Nghymru. Asesir arwyddocâd theatr genedlaethol fel arf i fynegi hunaniaeth genedlaethol a gofynnir y cwestiwn, a ydyw theatrau cenedlaethol newydd yr unfed ganrif ar hugain yn cyfeirio yn ôl at gysyniadau traddodiadol o'r genedl a chenedligrwydd neu, a ydynt, yn hytrach yn gweithredu math newydd ar genedligrwydd cyfoes a ddiffinnir fel, 'an interaction of culutral coalescence and specific political intervention'? Anwen Jones, 'Cymru, cenedligrwydd a theatr genedlaethol: Dilyn y gwys neu dorri cwys newydd?', Gwerddon, 8, Gorffennaf 2011, 45-55.
M. Wynn Thomas, 'Y werin a'r byddigions: Gwaed yr Uchelwyr' a diwylliant llên troad y ganrif' (2017)'
Dadl greiddiol yr ysgrif yw y byddai'n werth gosod drama nodedig Saunders Lewis, Gwaed yr Uchelwyr, yng nghyd-destun nifer o nofelau Saesneg Cymru a gyhoeddwyd ar droad y bedwaredd ganrif ar bymtheg sy'n ymdrin â pherthnasedd yr hen bendefigaeth i'r Gymru Newydd yr oedd mudiad Cymru Fydd yn ei hybu. Awgrymir y gall amgyffred y testunau hyn finiogi a chyfoethogi ein dehongliad o ddrama sy'n gynnil ac yn amwys iawn ei goblygiadau. M. Wynn Thomas, 'Y werin a'r byddigions: Gwaed yr Uchelwyr a diwylliant llên troad y ganrif', Gwerddon, 24, Awst 2017, 66-82.
Anwen Jones, Perfformio dinasyddiaeth: Sisters, cynhyrchiad ar y cyd rhwng National Theatre Wales a Junoon The...
Prif amcan yr erthygl hon yw gofyn sut mae dinasyddion Cymru fodern yn defnyddio’r adnoddau theatraidd sydd ar gael iddynt er mwyn archwilio a mynegi eu hunaniaethau a’u profiadau cenedlaethol. Man cychwyn y drafodaeth fydd cynhyrchiad o’r enw Sisters, prosiect ar y cyd rhwng National Theatre Wales a Junoon Theatre Mumbai. Mae Sisters yn ysgogi trafodaeth am ddulliau newydd o greu ac o gyfranogi o theatr sydd yn ymateb yn greadigol i heriau cymdeithas fyd-eang, ddigidol ac ôl-gyfalafol yr unfed ganrif ar hugain. Wrth drin a thrafod y cynhyrchiad a’i gyd-destun, defnyddir gweledigaeth gignoeth Johannes Birringer o theatr gyfoes fel gweithgarwch trawsffurfiannol sy’n canolbwyntio ar gyd-greu anhysbys a dadwreiddiedig fel canllaw i fesur llwyddiant ac arwyddocâd Sisters. Dadleuir hefyd fod yr union amgylchedd cymdeithasol a ysgogodd weledigaeth Birringer yn rhoi pwysigrwydd ffres ar ddadl Amelia Jones am werth ymateb i gynhyrchiad neu berfformiad trwy gyfrwng tystiolaeth eilaidd, neu falurion, chwedl Matthew Reason.
Myfanwy Miles Jones, 'Woyzeck Buchner, Peter Szondi ac argyfwng y ddrama' (2009)
Yn yr erthygl hon, mae Myfanwy Jones yn dadansoddi portread Büchner o seicosis y cymeriad canolog, sy'n datblygu, yng ngoleuni damcaniaeth seiciatrig ddirfodol R. D. Laing. Mae arsylwi ar natur gynyddol dramateiddiad Büchner o ddyfnder a chymhlethdod y meddwl dynol, yn ei dro, yn datgelu cyfyngiadau ffurfiol drama yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gan osod Woyczeck yng nghyd-destun dadansoddiad ffurfiol Szondi o ddrama fodern, mae'r erthygl yn dadlau bod ymdriniaeth Büchner â gwallgofrwydd yn bwrw goleuni newydd ar ddatblygiad ffurfiol drama fodernaidd ac yn dadlau bod y ffaith bod y ddrama yn anorffenedig yn ganlyniad anorfod y prosiect ei hun, o gofio er mwyn datrys y sefyllfa ddramatig yn ffurfiol, fod angen i amodau fodoli nad oeddent wedi dod i fodolaeth bryd hynny. Myfanwy Miles Jones, 'Woyzeck Büchner, Peter Szondi ac argyfwng y ddrama', Gwerddon, 4, Gorffennaf 2009, 24-35.
Penwythnos Cyfarwyddo Theatr 2013 a 2014
Cyfweliadau gyda chyfarwyddwyr theatr blaenllaw a ffilmiwyd yn ystod Penwythnos Cyfarwyddo Theatr 2013 a 2014. Dyma brosiect cydweithredol a drefnir gan Brifysgol De Cymru.