Added on: 03/06/2020 Publish Date: - 1K

Martha, Jac a Sianco (2008)

Description

Ffilm bwerus, ddramatig sydd yn olrhain blwyddyn ym mywyd y ddau frawd a chwaer, Martha, Jac a Sianco, ar y fferm deuluol, Graig Ddu. Nid oes dim byd wedi newid ar y fferm ers cenedlaethau, ond mae marwolaeth Mami a'r sylweddoliad ei bod wedi gadael y ffarm yn gyfartal rhwng y tri ohonynt yn cychwyn cadwyn o ddigwyddiadau sydd yn arwain at drasiedi. Mae yna elfen gre' o arswyd yn perthyn i'r ffilm wrth i'r brain bigo yn ddidrugaredd ar ffenestri'r fferm berfedd nos, buwch yn cnoi ei thethi ei hun ac effaith y gwenwyn sydd yn cael ei osod i ladd y brain. Yn ôl yr hen goel fe fydd y gwenwyn yn lladd saith gwaith a daw hynny yn wir erbyn diwedd y ffilm. Mae'r ffilm yn seiliedig ar y nofel lwyddiannus gan Caryl Lewis.

Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.

Documents and links:

Collection Level
Higher Education
Collection belongs to
Film, Television and Media Studies, Drama and Performance Studies, Welsh
License
ERA
S4C archive
Password Protected
mân-lun S4C

Subscribe/Create Account

Please fill in your details below to receive email notifications about new resources.