Added on: 03/06/2020 Publish Date: - 1.1K

Philip Jones Griffiths: Ffotograffydd Rhyfel Fietnam (2016)

Description

Hanner canrif yn ôl, ym 1966, aeth y ffotograffydd o Ruddlan, Philip Jones Griffiths, i Fietnam am y tro cyntaf. Byddai'r profiad yn llywio ei yrfa. Tynnodd Griffiths luniau dirdynnol o effaith ddinistriol rhyfel, nid yn unig ar Fietnamiaid diniwed, ond hefyd ar y milwyr. Newidiodd ei lyfr o luniau du a gwyn, VIETNAM INC. ym 1971, ein dealltwriaeth am byth o'r gwrthdaro gwaedlyd. Gyda chyfweliadau gan y rhai oedd agosaf ato; teulu a ffrindiau a chyd-weithwyr yn cynnwys John Pilger, Don McCullin a'r Athro Noam Chomsky, mae'r rhaglen ddogfen arbennig hon yn bwrw golwg ar fywyd y dyngarwr, a'r etifeddiaeth a adawodd ar ei ôl. Yn glasuron y byd ffotonewyddiaduraeth, mae ei luniau mor bwerus heddiw ag erioed. Rondo, 2016.

Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.

Documents and links:

Collection Level
Higher Education
Collection belongs to
History, Art and Design, Journalism and Communication
License
ERA
S4C archive
Password Protected
mân-lun Archif S4C

Subscribe/Create Account

Please fill in your details below to receive email notifications about new resources.