Added on: 03/06/2020 Publish Date: 2017 885 Cymraeg Yn Unig

Trin data gyda MS Excel

Description

Mae'r ddogfen fer hon gan Dr Hywel Griffiths yn cynnig cyflwyniad cryno i ddatblygu sgiliau trin a thrafod a chyflwyno data ystadegol o fewn Excel, ac yn addas ar gyfer myfyrwyr yn ystod tymor cyntaf eu hastudiaeth israddedig pan efallai y bydd gofyn iddynt ddefnyddio Excel am y tro cyntaf, cyn ei ddefnyddio er mwyn gwneud dadansoddiadau mwy manwl. Sgiliau TG sylfaenol yw ffocws y ddogfen felly, a'r gobaith yw y gall fod yn sail ar gyfer tasg fer mewn seminar neu diwtorial. Ar ddiwedd y ddogfen, nodir rhai cwestiynau a phwyntiau trafod y gellir ymhelaethu arnyn nhw yn y sesiynau hyn. Cliciwch ar 'Cyfryngau Cysylltiedig' i lawrlwytho'r data .

Mae gallu trin data ystadegol yn sgil greiddiol o fewn y gwyddorau amgylcheddol, boed hynny ym maes daearyddiaeth ffisegol, daearyddiaeth dynol neu wyddor amgylcheddol. Defnyddir ystod o ddulliau casglu, cyflwyno a dadansoddi data ystadegol mewn ymchwil academaidd a gan gyrff ac asiantaethau sydd yn rheoli'r amgylchedd yng Nghymru. Mae sawl meddalwedd ar gael er mwyn trin a thrafod data, ac mae rhai yn fwy defnyddiol ar gyfer gwahanol bwrpasau (arddangos, dadansoddi ac ati). Un o'r rhai mwyaf cyffredin yw MS Excel.

 

Documents and links:

Collection Level
Higher Education
Collection belongs to
Geography
License
All Rights Reserved
Coleg Cymraeg Resource Training resources
mân-lun generic

Subscribe/Create Account

Please fill in your details below to receive email notifications about new resources.