Drama rymus yn seiliedig ar un o ddramâu enwocaf Saunders Lewis.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.

Ffilm gelfydd sy'n rhoi darlun o fywyd yn Nhrefeurig ger Aberystwyth.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Ffilm a enwebwyd am Oscar gydag Ioan Gruffudd a Nia Roberts yn chwarae'r prif rannau. Stori serch yw hi lle mae perthynas y cariadon yn croesi rhaniadau crefyddol a chymdeithasol mewn cymuned yng Nghymoedd y De ar ddechrau'r 19eg ganrif. Maureen Lipman a David Horovitch sy'n chwarae rhieni'r Iddew, Solomon gyda William Thomas a Sue Jones Davies yn chwarae rhieni Gaenor. S4C a September Films, 1998.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Ffilm gan Karl Francis sy'n olrhain hanes cymdeithas lofaol yn ne Cymru drwy lygaid Gwen, brodores o'r ardal sy'n dathlu ei phen-blwydd yn 110 oed. Cinecymru 1989.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Ffilm bwerus, ddramatig sydd yn olrhain blwyddyn ym mywyd y ddau frawd a chwaer, Martha, Jac a Sianco, ar y fferm deuluol, Graig Ddu. Nid oes dim byd wedi newid ar y fferm ers cenedlaethau, ond mae marwolaeth Mami a'r sylweddoliad ei bod wedi gadael y ffarm yn gyfartal rhwng y tri ohonynt yn cychwyn cadwyn o ddigwyddiadau sydd yn arwain at drasiedi. Mae yna elfen gre' o arswyd yn perthyn i'r ffilm wrth i'r brain bigo yn ddidrugaredd ar ffenestri'r fferm berfedd nos, buwch yn cnoi ei thethi ei hun ac effaith y gwenwyn sydd yn cael ei osod i ladd y brain. Yn ôl yr hen goel fe fydd y gwenwyn yn lladd saith gwaith a daw hynny yn wir erbyn diwedd y ffilm. Mae'r ffilm yn seiliedig ar y nofel lwyddiannus gan Caryl Lewis.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Ffilm rymus wedi ei lleoli yng Ngogledd Iwerddon ac wedi ei chyfarwyddo gan Karl Francis. Richard Lynch sy'n chwarae rhan Private William Thomas, sy'n cael ei gyhuddo o lofruddiaeth gan lywodraeth sydd eisiau cadw'r achos dan glo. Gyda Dafydd Hywel a Bernard Latham.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Wrth i William Jones (Charles Williams) balu yng ngardd ei dÅ· cyngor, daw o hyd i ben carreg od yr olwg. Yn ystod y nos caiff ei wraig freuddwydion arswydus gan beri iddi orfodi i William symud y pen o'r tÅ·. Yn ei dro, aiff a'r pen i archeolgydd ym Mhrifysgol Bangor (Valerie Wynne-Williams) sy'n arbenigwr ar greiriau Celtaidd ac sy'n ceisio palu am olion y Celtiaid mewn man arall. Er mwyn ceisio deall beth yw'r pen aiff â fo adref gyda hi, ond i bethau ddechrau mynd o chwith yn y nos yno hefyd gan ddod â breuddwydion erchyll o greadur hanner dyn hanner anifail i wragedd y tÅ·. Un wrth un caiff teulu'r archeolegydd eu arswydo gan arwain at angau ac aberth arall i dduwiau hynafol y Celtiaid.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Mae Patagonia yn adrodd stori dwy fenyw ar daith; un yn chwilio am ei gorffennol, a'r llall yn chwilio am ei dyfodol. Mae'r ffilm yn cael ei thorri rhwng y ddwy stori lle mae un yn teithio o'r de i'r gogledd yn ystod y gwanwyn yng Nghymru a'r llall trwy'r dwyrain i'r gorllewin yn ystod Hydref yn yr Ariannin. Malacara, 2010.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Ffilm gafodd ei ffilmio'n gyfan gwbl ar leoliad yn St Petersburg. Hon oedd y ffilm gyntaf o'r Gorllewin i gael ei ffilmio yn y Rwsia newydd wedi cwymp Comiwnyddiaeth. Mae'r ffilm yn dilyn hynt a helynt tri athro a chriw o ddisgyblion ar daith i ddarganfod trysorau celf St Petersburg. Fodd bynnag, cyn gynted ag y maent yn cyrraedd, mae rhywbeth annisgwyl yn digwydd gan wasgaru pawb i gyfeiriadau gwahanol a chreu dwy lefel ar gyfer dehongli'r ffilm. Gyda Sharon Morgan, Steffan Trefor, Wyn Bowen Harris, Ifan Huw Dafydd, Richard Harrington, Geraint Francis ac Ivan Schvedov.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Rhaglen am David Raymond, yn enedigol o Gydweli, ond sydd bellach wedi ymgartrefu ym Mharis. Gohebydd tramor ydoedd, yn gweithio i'r Daily Mail, Raynolds News a'r Daily Mirror. Glansevin, 1983.
O Drefaldwyn i Fwdapest, mae'r bardd Twm Morys yn olrhain hanes cerdd y mae pob plentyn Hwngaraidd yn medru ei hadrodd ar gof; cerdd sy'n symbolaeth gref o ryddid i drigolion Hwngari - ond cerdd sydd â chysylltiad Cymreig. Twm Morys ei hun sydd wedi trosi'r gerdd i'r Gymraeg ac mae Karl Jenkins wedi gosod y gerdd i gerddoriaeth. Rondo, 2013.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Rhaglen am un o Gymry mwyaf dylanwadol y ganrif, pensaer y wladwriaeth les, a Phrif Weinidog Prydain Fawr. Yn ôl A. J. P. Taylor, Lloyd George oedd arweinydd mwya' Prydain ers Oliver Cromwell. Mae'r rhaglen hefyd yn sôn am ddarganfod ffilm golledig am fywyd y Prif Weinidog hyd at 1918. Dangosir darnau o'r ffilm hwnnw yn y rhaglen hon. Teliesyn, 1996.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Please fill in your details below to receive email notifications about new resources.