Dyma'r disgrifiad cynhwysfawr cyntaf un o Hen Gymraeg (iaith y 9fed ganrif hyd ddechrau'r ddeuddegfed) i ymddangos yn yr iaith Gymraeg. Mae'n addasiad (gan yr awdur ei hunan) o Gramadeg Hen Gymraeg, Alexander Falileyev, a gyhoeddwyd yn Rwsieg yn 2002, ac yn Ffrangeg yn 2008. Yn ogystal â throsi'r gwaith i'r Gymraeg, mae Dr Falileyev wedi'i addasu ar gyfer cynulleidfa Gymraeg, ac wedi ymgorffori ffrwyth yr ymchwil diweddaraf ar y testunau hyn (peth ohono eto i'w gyhoeddi). Mae hyn yn golygu y bydd o ddiddordeb i ysgolheigion profiadol yn ogystal â myfyrwyr a lleygwyr. Mae'n cynnwys disgrifiadau manwl o'r testunau hysbys, gyda llyfryddiaeth lawn, penodau ar ffonoleg, gramadeg a chystrawen yr iaith, a detholiad o destunau golygedig gyda nodiadau cynhwysfawr a geirfa. Mae'r llyfr hwn yn rhoi cyfle, am y tro cyntaf, i'r Cymry ddod i adnabod rhai o'r enghreifftiau cynharaf hysbys o destunau yn eu hiaith. Mae Dr Falileyev, yn enedigol o St Petersburg, Rwsia, yn arbenigydd ar yr ieithoedd Celtaidd. Mae wedi cyhoeddi'n helaeth ar enwau lleoedd a phersonol Celtaidd o Ewrop yn yr hen gyfnod, ac ar iaith a llenyddiaeth Cymru'r Oesoedd Canol Golygydd y Gyfres: Dr Simon Rodway, Prifysgol Aberystwyth.
Llawlyfr Hen Gymraeg – Alexander Falileyev
Llawlyfr Meistroli'r Gymraeg - Tudur Hallam
Cyfres o wersi i’w haddasu a’u defnyddio gan diwtoriaid a myfyrwyr sy'n astudio'r Gymraeg fel pwnc gradd, gan yr Athro Tudur Hallam, Prifysgol Abertawe.
Mae'n llawlyfr iaith ymarferol sydd yn rhoi pwyslais ar gyflawni tasgau ac ar ddysgu wrth wneud.
Er hwylustod i diwtoriaid a myfyrwyr, gellir lawrlwytho PDF o bob uned drwy glicio ar y dolenni isod:
- Uned 1: Datganiad Personol
- Uned 2: Bwletin Newyddion
- Uned 3: Y Llawlyfr
- Uned 4: Y Trosiad
- Uned 5: Perswadio
- Uned 6: Dadansoddi Gwallau
- Uned 7: Treigladau a Gramadeg
- Uned 8: Gwerthuso ac Adolygu
- Uned 9: Datganiad i'r Wasg
- Uned 10: Perswadio, Eto
- Atodiadau
Mae'r Llawlyfr yn cynnwys taflenni gwaith rhyngweithiol. Defnyddir blychau melyn ar gyfer y taflenni gwaith. Gellir llenwi rhai ohonynt ar sgrin drwy lalwrlwytho'r Llawlyfr ac agor y PDF gydag Adobe Acrobat Reader.
Lleisiau Patagonia 1902 (2015)
Un o'r ergydion mwyaf i'r Wladfa ym Mhatagonia oedd ymadawiad 234 o'r trigolion ym 1902. Roedd y llifogydd difrifol, diffyg tir, a'r addysgu milwrol cynyddol wedi'u llethu ac roedden nhw am gael tir i ffermio. Gadawodd 234 am Ganada i sefydlu gwladfa newydd. 70 mlynedd yn ddiweddarach, ym 1974, wrth chwilio am Gymry yng Nghanada, daeth Glenys James ar draws y Patagoniaid hyn yn Saskatchewan a recordio eu straeon. Yn y rhaglen hon cawn glywed, am y tro cyntaf, eu lleisiau'n adrodd hanes gadael Patagonia, eu tynged yng Nghanada, ac a lwyddon nhw i greu gwladfa Gymraeg newydd. Unigryw, 2015.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Darlith Flynyddol 2016: Y Gymraeg, y Wenhwyseg ac Addysg yn y De-ddwyrain
Darlith Flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2016: Y Gymraeg, y Wenhwyseg ac Addysg Gymraeg yn y De-ddwyrain gan Dylan Foster Evans. Traddodwyd y ddarlith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau ar ddydd Mawrth 2 Awst 2016.
Darlith Flynyddol 2017: 'Tros bedair gwaith o gwmpas y byd': Teithiau a Gweithiau William Williams, Pantycelyn
Darlith Flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2017: 'Tros bedair gwaith o gwmpas y byd': Teithiau a Gweithiau William Williams, Pantycelyn, gan Eryn White, Prifysgol Aberystwyth. Traddodwyd y ddarlith yn Eisteddfod Genedlaethol Môn ar ddydd Mawrth 8 Awst 2017.
The development of the syntax of numerals in Welsh
The rules determining the forms of nouns and adjectives after numerals and the associated initial-consonant mutations in Middle Welsh are often puzzling to Modern Welsh readers of the language. This article sketches the rules and provides a synchronic account of them. It is shown that they are based on a coherent system where number (singular, dual, numerative, plural) is central. The linguistic changes that have occurred since then are documented in detail and dated using textual evidence. It is argued that these changes can best be understood as steps along a pathway towards a new, equally coherent system where all numeral phrases are treated as singular, and gender rather than number determines both form and mutations.
Dechreuadau Cyfieithu Gwleidyddol yng Nghymru yn yr Oes Fodern Gynnar
Darlith gan Dr Marion Löffler, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, a gynhaliwyd ar ddydd Mercher, 22 Hydref 2014, ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Dim ond Heddiw (1978)
Cyfres ddrama gan Meic Povey, wedi'i lleol yng nghanol bwrlwm prysur y brifddinas. Darlithydd parchus yw Gareth Samuel. Nid yw ei wraig mor barchus. Mae ei chysylltiadau ag isfyd y dociau ac un neu ddau o fyfyrwyr ei gŵr yn ei harwain i bob math o drybini... HTV Cymru Wales, 1978.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Dirgelwch yr Ogof (2002)
Dwy ganrif yn ôl yn ne Ceredigion: lle yn llawn tlodi a smyglwyr. Mae mab stad y Glascoed, Harri, yn dychwelyd o'i deithiau tramor i ddarganfod fod y stad mewn trafferthion ariannol a bod disgwyl iddo ef briodi merch gyfoethog leol. Ffilm yn llawn antur a rhamant wedi'i haddasu o glasur T. Llew Jones, gyda Huw Rhys, Lowri Steffan a Mali Harries.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Dŵr a Thân (1992)
Gŵr a gwraig o Gymru ar eu gwyliau mewn maes pebyll yn Llydaw, yn cyfarfod a rhannu profiadau a phroblemau teulu o wlad Pwyl, sydd yn westeion i lywodraeth Ffrainc, yn dathlu dymchwel y wal. Gan Emyr Humphreys. Gyda Mei Jones, Mari Rowland Hughes, Tom Richmond, Buddug Povey, Iola Gregory a Dyfan Roberts. Ffilmiau Bryngwyn, 1992.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Dyddiadur Dyn Dwad (1989)
Perthynas arbennig Goronwy Jones efo crach Cymraeg Caerdydd. Am y tro cynta ers deng mlynedd mentrodd y Cofi o Gaernarfon yn ol i'r brif-ddinas... Er gwell, er gwaeth. Addasiad o nofel Goronwy Jones. Talisein, 1989.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Eitha different yndyn nhw...but it works'
Cynhaliwyd cyfres o weithdai ym Mhrifysgol Caerdydd ar 27 Ionawr 2017 i drafod dwyieithrwydd a’r broses greadigol, dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Llenyddiaeth Cymru.
Yn ogystal â gweithdy difyr ar yr heriau a’r cyfleoedd y mae dwyieithrwydd yn eu cynnig i awduron, beirniaid, cyhoeddwyr/cynhyrchwyr, a chyfranogwyr eraill i’r broses ysgrifennu, cafwyd cyfweliadau diddorol gydag Ed Thomas a Llwyd Owen, a thrafodaeth ford gron ddadlennol gyda Tony Bianchi, Catrin Dafydd, Alun Saunders a Branwen Davies.