J. R. Jones yn ymateb i argyfyngau dynol y ceir sôn amdanynt yn y Beibl. Cyhoeddwyd hefyd fel rhan o gyfrol Ac Onide
Yr Argyfwng Gwacter Ystyr – J. R. Jones
Yr Athro J. R. Jones (Llên y Llenor) – E. R. Lloyd-Jones
Cyfrol deyrnged i'r athronydd, pregethwr, heddychwr a'r cenedlaetholwr, J. R. Jones. Er mai cyfrol yng nghyfres Llên y Llenor yw hon, nid astudiaeth o arddull a mynegiant a geir yma, ond yn hytrach edrychir ar gynnwys gweithiau J. R. Jones.
Yr Ewyllys i Barhau – J. R. Jones
Araith a draddodwyd gan yr athronydd J. R. Jones yn Eisteddfod y Barri 1968 yn trafod y Cymry Cymraeg fel pobl a'u hawydd i oroesi.
Ysgrifau Dydd Mercher – Saunders Lewis
Casgliad o adolygiadau ac ysgrifau cofiannol gan Saunders Lewis a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn Y Faner rhwng 1939 ac 1945. Noda Saunders Lewis yn y cyflwyniad iddo ddewis casgliad ar thema llên a hanes y gorffennol, a dyna sy'n clymu'r ysgrifau heriol hyn.
Y Llofrudd Iaith – Gwyneth Lewis
Nofel dditectif ar ffurf barddoniaeth, sy'n gyfraniad gwreiddiol a beiddgar i'r ddadl am ddyfodol yr iaith. Enillodd y casgliad wobr Llyfr y Flwyddyn Cyngor Celfyddydau Cymru yn y flwyddyn 2000. Os gall iaith farw, gall rhywun ei lladd. Pwy sy'n gyfrifol am y corff ar y grisiau a thranc ein mamiaith? Y bardd? Yr archifydd? Y ffermwr? Mae'r pentre'n llawn o sibrydion a chymhellion tywyll, ac mae bwystfil peryglus yn crwydro'r mynyddoedd. At bwy y bydd Carma, y Ditectif, yn pwyntio bys? Ydych chi'n siwr nad chi sydd ar fai?
Y Meddwl Modern: Darwin – R. Elwyn Hughes
Charles Darwin, ym marn llawer, oedd y biolegydd mwyaf erioed. Ef a fu'n bennaf cyfrifol am gyflwyno i'r byd un o'r syniadau pwysicaf yn holl hanes bioleg – Theori Esblygiad. Disgrifir yn yr e-lyfr hwn sut y daeth i lunio'i ddamcaniaeth enwog am darddiad pethau byw a sut yr ehangodd arni, yng nghwrs ei yrfa, i gofleidio holl weithgareddau dyn ei hun. Trafodir ei le yng ngwyddoniaeth ei gyfnod, a'r ymateb i'w syniadau. Ystyrir hefyd i ba raddau y bu i amgylchiadau personol a chymdeithasol ei gynorthwyo a'i lesteirio yn ei waith.
Y Meddwl Modern: Lenin – W. J. Rees
Lenin oedd y gwleidydd cyntaf mewn unrhyw wlad i greu chwyldro ar sail egwyddorion Karl Marx. Ai llwyddiant ai methiant fu'r hyn a gyflawnodd ef rhwng 1917 a'i farw ym 1924? Cyn y gellir gosod llinyn mesur ar yr hyn a wnaeth, y mae angen deall yr amgylchiadau y digwyddodd y Chwyldro Comiwnyddol ynddynt, amgylchiadau a oedd yn bur wahanol i'r rhai lle disgwyliasai Marx weld gweithredu ei syniadau. Disgrifir yn y gyfrol hon gyflwr pethau yn Rwsia cyn y Chwyldro, gan amlinellu'n gryno ddatblygiad y gymdeithas a'i sefydliadau. Eir ymlaen i roi braslun o yrfa gyffrous Lenin ac olrheinir rhediad ei syniadau wrth iddo ymlafnio i droi dadansoddiad Marx yn rhaglen o weithredu ymarferol.
Y Meddwl Modern: Wittgenstein – Walford Gealy
Cyfrifir Ludwig Wittgenstein gan lawer yn athrylith hynotaf yr ugeinfed ganrif mewn athroniaeth. Y mae hefyd yn unigryw yn ei faes gan iddo greu nid un athroniaeth ond dwy, y ddwy yn wreiddiol, dylanwadol a gwrthgyferbyniol. Ceisir yn y gyfrol hon esbonio mewn iaith seml ei ddau safbwynt sydd i'w gweld yn Tractatus Logico-Philosophicus ac yn yr Ymchwiliadau Athronyddol.
Y Rhyfel – W. Llewelyn Williams
Ysgrif a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1914, gan W. Llewelyn Williams, aelod seneddol Rhyddfrydol Sir Gaerfyrddin, yn dehongli hanes dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf a thrafod rôl Cymru a Phrydain yn 'ymladd brwydrau gwareiddiad'. Roedd W. Llewelyn Williams yn gwrthwynebu consgripsiwn gorfodol. Mae'n apelio ar y Cymry i ymrestru. Ceir copi PDF o'r ysgrif wreiddiol ar ddiwedd y fersiwn ddigidol newydd. Mae'r e-lyfr hwn yn ffrwyth prosiect DEChE – Digido
Y Rhyfel Mawr: Apêl at y Bobl – David Lloyd George
Araith gan David Lloyd George a draddodwyd ym Mangor yn 1915 pan oedd yn Ganghellor y Trysorlys er mwyn annog cefnogaeth i'r Rhyfel Byd Cyntaf. Mae'r e-lyfr hwn yn ffrwyth prosiect DEChE – Digido
Y Traddodiad Cerddorol yng Nghymru – Ifor ap Gwilym
Hanes traddodiad cerddorol Cymru a geir yn y gyfrol hon. Rhennir y gyfrol yn bedair pennod; yn y gyntaf cawn drosolwg ar hanes y traddodiad cerddorol o'r cychwyn cyntaf hyd yr ugeinfed ganrif. Canolbwyntir ar delynorion a chrythorion yn yr ail bennod, gyda bywgraffiadau byr o offerynwyr oedd yn eu blodau rhwng yr unfed ganrif ar bymtheg hyd yr ugeinfed ganrif, megis teulu'r Wood a Nansi Richards. Hanes bywydau cyfansoddwyr o Gymru a geir yn y drydedd bennod ac yna bywgraffiadau cantorion a wnaeth eu marc sydd yn y bedwaredd bennod.
Y Traddodiad Rhyddiaith – Geraint Bowen (gol.)
Cyfres o benodau yn pwyso a mesur cyfraniad gwahanol lenorion ac ysgolion o lenorion o gyfnod rhwng y Dadeni a'r Diwygiad Protestannaidd hyd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg i'r traddodiad llenyddol Cymraeg a'u dylanwad hyd heddiw.