Ychwanegwyd: 27/05/2022 Dyddiad cyhoeddi: 2022 1.2K Cymraeg Yn Unig

Cynhadledd Llenyddiaeth Gymraeg: Llwybrau Newydd

Disgrifiad

Cynhadledd Llenyddiaeth Gymraeg: Llwybrau Newydd

9 Mehefin 2022, Siambr y Cyngor, Prif Adeilad Prifysgol Caerdydd, Plas y Parc, Caerdydd, CF10 3AT

9.45yb - 17.15yp

Cynhadledd wyneb yn wyneb yn cael ei threfnu gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd o dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Rhaglen lawn o bapurau difyr, gyda'r ddarlith gyweirnod yn cael ei thraddodi gan Yr Athro Mererid Hopwood.

 

Rhaglen:

 

Llenyddiaeth Fodern (10-11.30)

Dr Siwan Rosser, ‘Llenydda dan Amodau: Llyfrau i Blant a Phobl Ifanc’

Sara Borda Green, 'Rôl Patagonia yn y dychymyg Cymreig - rhai agweddau o Un o ble wyt ti? gan Ioan Kidd (2011)'

Dr Ffion Eluned Owen, ‘ “Brwydr fawr ein bryd ar fyw”: Trosolwg o’r Ymateb Barddonol i Argyfwng y Gymraeg yng Nghymunedau Gwledig Cymru (1991-2021)’

 

Y Ddarlith Gyweirnod (12.00-13.00)

Yr Athro Mererid Hopwood, ‘ “Nid yw hon ar fap …”: chwilio’r hewl sydd yn rhywle rhwng ieithoedd’

 

Yr Oesoedd Canol (13.45-15.15)

Dr Rebecca Thomas, ‘Amlieithrwydd Canoloesol mewn Rhyddiaith Ddiweddar’

Dr David Callander, ‘Canu Myrddin: Heriau a Chyfleon’

Dr Ben Guy, ‘O Achaws Nyth yr Ehedydd? Enwau Lleoedd a Chwedl Myrddin’

 

O'r Cyfnod Modern Cynnar i'r 20fed Ganrif (15.45-17.15)

Manon Gwynant, ‘Shylock a Sieiloc: gelyn neu ddioddefwr? Archwiliad o gyfieithiad Cymraeg J. T. Jones, Marsiandwr Fenis, ac effaith trosi Shylock yn Sieiloc'

Dewi Alter, ‘Pwy yw’r Cymry? Cof diwylliannol a’r Ffydd Ddi-ffuant gan Charles Edwards (1677)’

Dr Gareth Evans-Jones, ‘Llythyr Un o Drigolion y Lleuad at Drigolion y Ddaear: Gwrth-gaethwasiaeth a Llenyddiaeth Ffuglen Wyddonol y 19eg Ganrif’

 

Cliciwch isod i weld y rhaglen yn llawn.

 

Mynediad a lluniaeth am ddim. Cofrestrwch i fynychu. Croeso i bawb. Mae'r gynhadledd yn y Gymraeg - does dim cyfieithu ar y pryd. 

Dilynwch y ddolen isod i gofrestru.

Mae croeso ichi gysylltu â'r trefnwyr gydag unrhyw ymholiad: Dr Rhiannon Marks (MarksR@caerdydd.ac.uk) a Dr David Callander (CallanderD@caerdydd.ac.uk)

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch, UG/Safon Uwch, Addysg Oedolion
Perthyn i
Cymraeg
Adnodd Coleg Cymraeg Cynhadledd
Cynhadledd Llenyddiaeth Gymraeg: Llwybrau Newydd

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.