Ychwanegwyd: 25/05/2021 Dyddiad cyhoeddi: 2021 1.1K Cymraeg Yn Unig

Defnyddio meddalwedd recordio Panopto

Disgrifiad

Mae’r gyfres hon yn esbonio sut mae defnyddio meddalwedd Panopto, gan gynnwys sut i fynd ati i recordio, sut i olygu, sut i rannu’r clipiau fideo ag eraill a sut i ddefnyddio Panopto ar gyfer asesu.

Mae'r adnodd yn cynnwys:

  • Cyflwyniad - Cyflwyniad byr ar ffurf fideo yn esbonio beth yw’r meddalwedd recordio Panopto ac ar gyfer beth mae’n cael ei ddefnyddio.
  • Cychwyn arni: Lawrlwytho’r recordydd Panopto -Sut i lawrlwytho’r recordydd Panopto ar gyfer Windows
  • Paratoi eich safle Blackboard - Sut i baratoi eich safle Blackboard ar gyfer defnyddio Panopto (cwrs gwreiddiol a chwrs ultra) 
  • Creu eich recordiad cyntaf - Sut i fynd ati i recordio
  • Golygu syml - Sut i fynd ati i olygu dechrau a diwedd recordiad a thynnu rhan o ganol recordiad
  • Copïo recordiad o un ffolder i un arall - Sut i gopïo recordiad o un ffolder Panopto i un arall
  • Symud recordiad o un ffolder i un arall - Sut i symud recordiad o un ffolder Panopto i un arall
  • Is-deitlau - Sut i olygu neu ddileu’r is-deitlau
  • Gosod y recordiad o fewn strwythur modiwl - Sut i osod dolen i recordiad Panopto o fewn Blackboard (safle yn y wedd wreiddiol)
  • Gosod y recordiad o fewn strwythur modiwl - Sut i osod dolen i recordiad Panopto o fewn Blackboard (safle Ultra)
  • Panopto ar gyfer asesu: Creu ffolder aseiniadau - Sut i greu ffolder aseiniadau o fewn eich safle Blackboard i alluogi myfyrwyr gyflwyno gwaith ar ffurf fideo
  • Uwchlwytho fideo i'r ffolder aseiniadau - Fideo i fyfyrwyr ar sut i uwchlwytho ffeil i’r ffolder aseiniadau
  • Gosod cwis o fewn recordiad - Creu a gosod cwisiau o fewn recordiad - Dogfen Sway
  • Rhannu recordiad gydag eraill - Sut i rannu fideo ag eraill a hawliau gwylio

Cyflwynydd: Bethan Wyn Jones

Mae Bethan Wyn Jones yn Uwch Dechnolegydd Dysgu ym Mhrifysgol Bangor ac hefyd ar secondiad rhan-amser gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel technolegydd e-ddysgu. Mae ganddi dros 18 mlynedd o brofiad yn gweithio ym maes e-ddysgu ac yn benodol ar y defnydd o dechnoleg dysgu fel cyfrwng i hyrwyddo darpariaeth cyfrwng Cymraeg o fewn Addysg Uwch.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch, Ôl-16 a Galwedigaethol
Perthyn i
Rhaglen Datblygu Staff
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Gweithdy/Gweminar
Defnyddio meddalwedd recordio Panopto

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.