Ychwanegwyd: 26/03/2024 Dyddiad cyhoeddi: 2024 311 Cymraeg Yn Unig

Dulliau Ymchwil ac Ystadegau

Disgrifiad

E-werslyfr am gynllunio a gwneud ymchwil meintiol yw hwn. Mae'n gyflwyniad cyflawn a manwl i'r broses o gynllunio ymchwil, casglu data a dadansoddi ystadegau.

Wedi'i anelu'n bennaf at israddedigion sy'n astudio Seicoleg, mae'r e-werslyfr yn mynd law yn llaw â modiwlau dulliau ymchwil a'r traethawd hir. Mae hefyd yn adnodd defnyddiol i israddedigion ac ôlraddedigion sy'n astudio dulliau ymchwil ac yn cynnal ymchwil meintiol mewn ystod eang o bynciau eraill.

Yr awduron yw Dr Awel Vaughan-Evans, Dr Gwennant Evans-Jones ac Emma Hughes-Parry.

Ymysg y pynciau a drafodir mae:

  • Moeseg
  • Cynllunio ymchwil meintiol
  • Samplu, dilysrwydd a dibynadwyedd
  • Cyflwyniad i ystadegau
  • Dosraniadau a thebygolrwydd
  • Ystadegau casgliadol
  • Cydberthyniad
  • Atchweliad llinol
  • Y prawf t
  • Dadansoddi atchweliad
  • SPSS
  • Dadansoddi cyfrannau a'r prawf chi sgwar
  • Profion amharametrig amgen

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Seicoleg, Trawsddisgyblaethol, Rhaglen Sgiliau Ymchwil
Trwydded
CC BY-NC-SA 4.0
Adnodd Coleg Cymraeg E-lyfr
mân lun dulliau ymchwil ac ystadegau

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.