Ychwanegwyd: 28/04/2023 Dyddiad cyhoeddi: 2023 565 Cymraeg Yn Unig

Gwerthuso’r proffiliwr-PERMA i nodi a chefnogi iechyd meddwl a lles disgyblion wrth bontio i’r ysgol uwchradd

Disgrifiad

Mae iechyd meddwl gwael a diffyg lles yn broblem ddigynsail ymhlith plant heddiw. Cynigia Seligman (2011) y dylid gofalu am les a hapusrwydd drwy ddulliau seicoleg bositif. Mae asesiad PERMA (Positive emotionEngagementRelationshipsMeaningAccomplishments/Achievements) (Butler a Kern 2015) yn gofyn i unigolion hunanasesu i ba raddau y maent yn ‘ffynnu’. Bwriad y prosiect peilot hwn oedd asesu gwerth y proffiliwr-PERMA fel teclyn i adnabod agweddau ar iechyd meddwl a lles cyffredinol disgyblion blwyddyn 7 mewn tair ysgol uwchradd. Yn dilyn yr holiadur cyntaf, cynigwyd ystod o strategaethau dylunio cyffredinol i athrawon eu defnyddio cyn asesu eto ar ddiwedd y tymor. Awgryma’r canlyniadau werth teclyn hunanasesu i nodi lefelau cyffredinol iechyd meddwl a lles disgyblion ac i nodi’r unigolion hefyd sydd yn debygol o brofi anawsterau dwys yn ddiweddarach.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Addysg
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Erthygl 'Gwerddon'
mân lun gwerddon 35

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.