Recordiad o weminar a gynhaliwyd ar 3 Mehefin 2026.
Cyflwyniad i staff academaidd sy’n awyddus i ddatblygu eu presenoldeb proffesiynol ar LinkedIn.
Yn ystod y cyflwyniad byddi di’n dysgu sut i ddefnyddio’r platfform yn effeithiol i:
- Rwydweithio’n broffesiynol
- Hyrwyddo digwyddiadau a gweithgareddau
- Datblygu a chryfhau dy broffil academaidd
- Meithrin hyder i rannu cynnwys
- Ymgysylltu â myfyrwyr a phartneriaid
- Rhannu dy waith
- Adeiladu a thyfu rhwydweithiau newydd yn dy faes
Cyflwynir y gweithdy gan Mari Gwenllian Roberts ac Elinor Churchill o Adran Gyrfaoedd Prifysgol Bangor. Ceir hefyd gyfraniadau gan Dr Miriam Elin Jones o Brifysgol Abertawe, a Dr Gareth Evans-Jones o Brifysgol Bangor yn rhannu arferion da a phrofiadau personol o ddefnyddio LinkedIn yn broffesiynol.
