Ychwanegwyd: 03/06/2020 Dyddiad cyhoeddi: 2015 855

Noel Davies, 'Rôl bôn-gelloedd yn adfer meinwe cardiaidd: gwerthuso triniaethau ac adnabod risg' (2015)

Disgrifiad

Mae'r erthygl hon yn gwerthuso potensial ystod o fôn-gelloedd ar gyfer atffurfio meinwe cardiaidd yn dilyn trawiad ar y galon. Ar sail arolwg cychwynnol o ymchwil perthnasol, cyflwynir rhai o'r prif fecanweithiau biolegol parthed atffurfio meinwe cardiaidd, yn cynnwys:

  1. rôl ffactorau trawsgrifio, megis ocsitosin a c-kit a ffactorau twf paracrinaidd;
  2. astudiaethau ar bysgod rhesog sydd wedi datgelu mecanweithiau megis rôl atffurfiannol cardionogen 1-, 2- a 3-, a'u swyddogaeth yn atal effeithiau ffenoteipiau cardiaidd sy'n rheoli datblygiad y galon;
  3. mecanweithiau cludo ac impwreiddio, yn cynnwys fectorau firol a phlasmidol, ysgogiad trydanol a nanodechnoleg.

Adroddir am ganlyniadau arbrofion in vitro ac in vivo sydd wedi dangos fod i fôngelloedd botensial clinigol yn y maes hwn, yn ogystal â pheryglon imiwnolegol a thiwmorigenig. Ar hyn o bryd (2012), er bod y dystiolaeth glinigol yn brin, awgrymir modelau therapiwtig cymhleth i'w datblygu yn y dyfodol. Ceir geirfa arbenigol i gydfynd â'r erthygl ar ddiwedd y ddogfen PDF. Noel Davies, 'Rôl bôn-gelloedd yn adfer meinwe cardiaidd: gwerthuso triniaethau ac adnabod risg', Gwerddon, 20, Hydref 2015, 61-79.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Gwyddorau Biolegol
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Erthygl 'Gwerddon'
mân-lun cyfrol gwerddon 20

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.