Ychwanegwyd: 05/11/2020 Dyddiad cyhoeddi: 2020 1.4K

Osgoi llên-ladrad: Ysgrifennu academaidd effeithiol [canllaw i addysgwyr], Dr Leila Griffiths

Disgrifiad

Mae’r adnodd hwn yn cefnogi’r sawl sy'n rhoi arweiniad i fyfyrwyr ynghylch arferion academaidd da y gallent roi ar waith wrth ymateb i'w ffynonellau ac ysgrifennu amdanynt gan osgoi llên-ladrad. Wedi’i gynnwys o fewn yr adnodd hwn ceir y canlynol:

  • Arweiniad ar ffurf canllaw i addysgwyr ynghylch cyflwyno arferion academaidd da sy’n gysylltiedig ag osgoi llên-ladrad;
  • Deunyddiau ar-lein (cyflwyniadau Sway a chwisiau) y gellir eu rhannu yn uniongyrchol gyda myfyrwyr; a
  • Thaflenni gwaith y gellir eu rhannu gyda myfyrwyr.

Nod canolog yr adnodd hwn yw darparu man hwylus i addysgwyr fedru troi ato am gymorth ac arweiniad sy’n fodd o’u harfogi â syniadau ymarferol ar gyfer gweithdai yn ogystal â deunyddiau rhyngweithiol i’w rhannu â myfyrwyr.

 

Dr Leila Griffiths

Mae Dr Leila Griffiths yn Gynghorwr Astudio (cyfrwng Cymraeg) yng Nghanolfan Sgiliau Astudio, Prifysgol Bangor. Mae wedi bod yn gweithio fel rhan o dîm sy’n anelu at gynorthwyo israddedigion a myfyrwyr ôl-raddedig i ddatblygu’r strategaethau a’r prosesau a fydd yn gymorth i fyfyrwyr fanteisio i’r eithaf ar eu hastudiaethau. Mae gan Leila brofiad o gydweithio’n agos gydag adrannau academaidd i gefnogi ac ategu’r ddarpariaeth pwnc-benodol o fewn y disgyblaethau, ac i ledaenu arferion da. Mae ffrwyth ei phrofiad o gydweithio gydag adrannau i ddatblygu’r cwricwlwm a datblygu modiwl sgiliau i’r Coleg Cymraeg wedi cael ei gyhoeddi yma yn ddiweddar.

Yn ychwanegol i’r ddarpariaeth o fewn adrannau, mae’r Ganolfan hefyd yn darparu apwyntiadau unigol wyneb-yn-wyneb (fel arfer), dros y ffôn neu dros Teams, cymorth mathemateg ac ystadegau, yn ogystal â gweithdai generig a chanllawiau astudio ar-lein i fyfyrwyr ar bob lefel astudio.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Rhaglen Datblygu Staff
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Gweithdy/Gweminar
Osgoi llên-ladrad: Ysgrifennu academaidd effeithiol [canllaw i addysgwyr], Dr Leila Griffiths

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.