Ychwanegwyd: 03/06/2020 Dyddiad cyhoeddi: 2019 942

Sara Borda Green, Astudiaeth achos: effaith y cyfryngau digidol ar gynnwys a swyddogaeth O’r Pedwar Gwynt ac Y Stamp

Disgrifiad

Mae’r erthygl hon yn edrych ar ddylanwad y cyfryngau digidol ar y maes llenyddol Cymraeg cyfoes wrth ddisgrifio a chymharu dau gylchgrawn llenyddol sy’n cyfuno elfennau printiedig a digidol. Lansiwyd O’r Pedwar Gwynt ac Y Stamp yn ystod 2016, a bellach dyma’r unig ddau gyhoeddiad llenyddol yn y Gymraeg sydd â phresenoldeb cyson ar bapur ac ar-lein. Trwy eu dadansoddi caiff syniadau traddodiadol ynglyˆn â’r broses cynhyrchu llenyddol eu herio, yn enwedig y rhai sy’n ymwneud â natur y gwrthrych llenyddol a rôl y cynhyrchwyr (golygyddion ac awduron) a’r derbynwyr (darllenwyr). Gan ddefnyddio cysyniadau sydd â’u gwreiddiau yn astudiaethau’r cyfryngau (Marshall McLuhan) a theori meysydd cymdeithasol (Pierre Bourdieu), rhoddir pwyslais ar bosibiliadau prosiectau sy’n cyfuno nodweddion cyfryngau a chynhyrchion llenyddol.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Cymraeg
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Erthygl 'Gwerddon'
mân-lun cyfrol gwerddon 29

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.