Ychwanegwyd: 15/03/2021 Dyddiad cyhoeddi: 2021 1.5K

Termau technegol ar gyfer dysgu trwy’r Gymraeg

Disgrifiad

*Mae'r hyfforddiant ar waelod y dudalen hon

Cyflwynwyr:  Yr Athro Delyth Prys a Dr Tegau Andrews 

Amcanion y gweithdy hwn yw

  • Cyflwyno cefndir y gwaith safoni termau, yn rhyngwladol ac yn genedlaethol, gan blethu’r damcaniaethol a’r ymarferol, er mwyn egluro’r broses safoni a’i perthnasedd i waith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
  • Rhoi gwell dealltwriaeth i staff a myfyrwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol o’r adnoddau geiriadurol a therminolegol sydd ar gael i’w cynorthwyo i ysgrifennu a chyfathrebu yn well mewn Cymraeg academaidd da.
  • Datgelu dirgelwch sut mae termau Cymraeg yn cael eu bathu a’u safoni, gan drafod yr egwyddorion rhyngwladol sy’n gyrru’r broses a chyflwyno enghreifftiau penodol, fel y gall unrhyw rai sydd â diddordeb ddeall sut mae’r termau hyn yn cyrraedd ein hiaith.
  • Rhoi arweiniad i awduron, cyfieithwyr a rheolwyr prosiectau sydd wedi cael eu hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i greu adnoddau i fyfyrwyr, gan esbonio iddynt ar ddechrau’r broses o greu adnodd sut mae termau’n berthnasol iddynt a ble mae gwaith termau’n ffitio o fewn eu hamserlen.

Cynnwys

  • Trosolwg cyffredinol o’r adnoddau geiriadurol a therminolegol sydd ar gael i staff a myfyrwyr.
  • Cymorth ymarferol ar sut i ddefnyddio geiriaduron cyffredinol a geiriaduron termau electronig ar-lein. 
  • Esboniad o sut mae safoni termau i’r Gymraeg, a pherthnasedd safonau rhyngwladol i’r broses honno.
  • Amlinelliad o gamau datblygu adnoddau i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gan ganolbwyntio ar rôl termau o fewn y camau hyn. 

Ar ddiwedd y gweithdy hwn dylai hyfforddeion fod yn gallu

  • Amgyffred yn well bwysigrwydd defnyddio termau safonol mewn ysgrifennu academaidd.
  • Defnyddio adnoddau geiriadurol a therminolegol yn fwy effeithiol yn eu gwaith, a gwella safon eu Cymraeg academaidd.
  • Gwybod ble i droi os bydd angen cymorth ychwanegol arnynt gyda thermau technegol Cymraeg.
  • Deall yn well sut y mae termau’n cael eu safoni ar gyfer y Gymraeg.
  • Cynllunio adnoddau newydd i fyfyrwyr gan ystyried unrhyw waith termau hanfodol.

Bywgraffiad

Mae’r Athro Delyth Prys wedi bod yn Brif Olygydd y Ganolfan Safoni Termau (bellach rhan o Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr) ers 1993, ac yn Bennaeth yr Uned Technolegau Iaith ers 2001. Mae’n arwain tîm cymysg o ieithyddion ac arbenigwyr meddalwedd sy’n datblygu offer iaith digidol arloesol ar gyfer y Gymraeg.

Mae’r Dr Tegau Andrews yn Derminolegydd i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ers 2009. Yn ystod y cyfnod hwn mae wedi datblygu Geiriadur Termau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i fod yn un o’r prif eiriaduron termau technegol Cymraeg, yn cynnwys diffiniadau, diagramau a lluniau esboniadol.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch, Ôl-16 a Galwedigaethol
Perthyn i
Rhaglen Datblygu Staff
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Gweithdy/Gweminar
Termau technegol ar gyfer dysgu trwy’r Gymraeg

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.