Ychwanegwyd: 25/05/2021 Dyddiad cyhoeddi: 2021 1.3K Cymraeg Yn Unig

Tiwtora a Mentora: taith y tiwtor a’r myfyriwr

Disgrifiad

Amcanion y gweithdy hwn yw:

  • Deall pwy yw’r tiwtor personol?
  • Cyflwyno rhai o brif egwyddorion tiwtora personol
  • Ystyried y gefnogaeth sydd ar gael i diwtoriaid personol ar lefel leol (e.e. yn eich Ysgol / Adran) ac yn y sefydliad

Cynnwys:

Mae tiwtora personol yn ganolog i brofiadau myfyrwyr ac mae rhaglenni tiwtora personol yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr dderbyn arweiniad, cyngor a chymorth ar bob math o bethau yn ystod eu taith academaidd yn y brifysgol. Mae taith pob unigolyn yn un wahanol ac mae disgwyl i raglenni tiwtora personol ddiwallu anghenion gwahanol fathau o fyfyrwyr ynghyd ag ymateb i brosesau a gweithdrefnau ar lefel sefydliadol.

Mae’r gweithdy hwn yn cynnig cyfle i ystyried rhai o’r prif egwyddorion sydd wrth wraidd rôl y tiwtor personol gan gyfeirio at rai disgwyliadau a chamau ymarferol y gall y tiwtor eu cymhwyso i’w rôl.

Ar ddiwedd y gweithdy hwn dylai hyfforddeion fod yn gallu:

  • Diffinio rhai o brif nodweddion rôl y tiwtor personol
  • Adnabod yr hyn y mae angen i diwtoriaid personol ei ystyried wrth diwtora
  • Ystyried ffyrdd i gefnogi myfyrwyr mewn gwahanol sefyllfaoedd a chyd-destunau
  • Ystyried ffyrdd i deilwra sesiynau tiwtora er mwyn diwallu anghenion
  • Ystyried pwysigrwydd rhwydweithio a chreu partneriaeth â myfyrwyr er mwyn datblygu dulliau tiwtora effeithiol
  • Ystyried ffyrdd y gall myfyrwyr gyfrannu at y broses diwtora
  • Adnabod yr hyn sydd ar gael i gefnogi tiwtoriaid personol

 

Cyflwynydd:  Dr Angharad Naylor

Mae Dr Angharad Naylor yn Uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Mae’n Gyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu ac yn Diwtor Personol Hŷn.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch, Ôl-16 a Galwedigaethol
Perthyn i
Rhaglen Datblygu Staff
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Gweithdy/Gweminar
Tiwtora a Mentora: taith y tiwtor a’r myfyriwr

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.