Ychwanegwyd: 23/07/2020 Dyddiad cyhoeddi: 2020 946

Ymgorffori sgiliau astudio mewn addysgu

Disgrifiad

Bydd y gweithdy hwn o ddiddordeb i staff sy’n dymuno archwilio dulliau o ymdrin â sgiliau astudio, a’r posibiliadau o integreiddio a chyflwyno elfennau o sgiliau astudio i mewn i raglenni/modiwlau/cyrsiau academaidd.

Cyflwynydd: Dr Leila Griffiths

Mae Leila Griffiths yn Gynghorwr Astudio yng Nghanolfan Sgiliau Astudio, Prifysgol Bangor, ac yn rhinwedd ei swydd mae wedi bod yn gweithio fel rhan o dîm sy’n anelu at gynorthwyo israddedigion a myfyrwyr ôl-radd yn ystod y broses o bontio i Brifysgol a symud ymlaen trwyddi. Gweithia’r Ganolfan yn agos gydag adrannau academaidd i gefnogi ac ategu’r ddarpariaeth bwnc benodol o fewn y disgyblaethau, ac i ledaenu arferion gorau. Mae gan Leila brofiad o gydweithio’n agos gyda staff mewn nifer o wahanol adrannau academaidd ym maes datblygu dysgu ac addysgu.

Amcanion y gweithdy

  • Datblygu ymwybyddiaeth o ddulliau o ymdrin â sgiliau astudio ar lefel pynciol;
  • Rhannu arferion gorau mewn perthynas ag ysgolion academaidd ym maes sgiliau astudio;
  • Archwilio’r posibiliadau o gyflwyno sgiliau astudio fel elfen integredig o fodiwl neu gwrs academaidd.

Deilliannau Dysgu

  • Cyflwyno agweddau ar sgiliau astudio ar lefel pynciol i fyfyrwyr (gan sicrhau fod y ddarpariaeth sgiliau astudio a gynigir gan yr ysgol yn berthnasol i astudiaethau pwnc benodol eu myfyrwyr);
  • Adnabod arferion gorau ym maes sgiliau astudio wrth gynllunio modiwlau/cyrsiau;
  • Bod yn ymwybodol o fodelau a dulliau o gyflwyno sgiliau astudio o fewn modiwlau/cyrsiau.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Rhaglen Datblygu Staff
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Gweithdy/Gweminar
mân-lun ymgorffori sgiliau astudio

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.