Portread tyner o'r diweddar hanesydd canu gwerin, yr athronydd a'r cynhyrchydd adloniant o Danygrisiau, y Dr Meredydd Evans a fu farw flwyddyn yn ôl i heddiw (ar 21 Chwefror 2015). Drwy gyfres o gyfweliadau estynedig yn ei gartref diarffordd yng Nghwm Ystwyth ynghyd â chyfweliadau gyda chyfeillion, edmygwyr ac aelodau o'i deulu, dyma ddarlun o ddyn sydd wedi ymgyrchu'n ddiflino dros hawliau i Gymru a'r Gymraeg dros y blynyddoedd ac sydd hefyd wedi cyfrannu'n uniongyrchol tuag at ddiwylliant y wlad. Ag yntau wedi penderfynu'n ddiweddar i ymddeol o lygad y cyhoedd, dyma lwyfan olaf Merêd, lle mae'n edrych yn ôl dros ei fywyd ac yn gwyntyllu ei farn ynglŷn â sawl pwnc sy'n agos at ei galon. Cwmni Da, 2014. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Leila Salisbury, 'Golwg ar ganeuon serch Iolo Morganwg, gyda sylw arbennig i'r Ferch o'r Scerr'' (2010)'
Mae llawysgrifau Iolo Morganwg (1747-1826), yn ogystal â'i gasgliad o ganeuon gwerin brodorol, yn rhoi cipolwg unigryw i ni ar gyfnod pwysig yn hanes diwylliant Cymru yn ystod y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Prif ffocws yr astudiaeth hon yw'r caneuon serch a geir yn ei gasgliad, ynghyd â'r cyd-destun a'r cefndir cymdeithasol ehangach sy'n sail i'r caneuon gwerin. Gellir olrhain y traddodiad hwn i feirdd yr uchelwyr ac, yn arbennig, i oes Dafydd ap Gwilym. Hefyd, trafodir un dôn werin benodol yn fanwl, 'Y Ferch o'r Scerr'. Mae'r stori serch, y dôn werin a'r geiriau sydd fel arfer yn gysylltiedig â'r 'Ferch o'r Scerr' i gyd yn dra hysbys mewn sawl cylch, fodd bynnag, mae'r dôn werin a recordiwyd gan Iolo yn gwbl anhysbys. Leila Salisbury, 'Golwg ar ganeuon serch Iolo Morganwg, gyda sylw arbennig i'r 'Ferch o'r Scerr'', Gwerddon, 5, Ionawr 2010, 53-80.
Gwawr Ifan, 'Un Llef Pedwar Llais': Dylanwad canu corawl ar iechyd a lles yng Nghymru' (2012)'
Ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae canu corawl wedi chwarae rhan flaenllaw yn y diwylliant a'r gymdeithas Gymreig. Yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, bu galw cynyddol i ystyried dylanwad lles a safon byw ar iechyd. Yn sgil hyn, mae llawer o ymchwil yn ystyried y celfyddydau cymunedol, a chanu corawl yn benodol, fel enghraifft o gyfalaf cymdeithasol, a'r modd y gall hyn ddylanwadu ar iechyd a lles personol a chymdeithasol. O ganlyniad i'r gydnabyddiaeth hon, canolbwyntia'r erthygl hon ar ymchwil i'r berthynas rhwng canu corawl – fel digwyddiad cerddorol a chymdeithasol – ac iechyd a lles cyffredinol ymhlith cantorion amatur yng Nghymru. Gwawr Ifan, ''Un Llef Pedwar Llais': Dylanwad canu corawl ar iechyd a lles yng Nghymru', Gwerddon, 10/11, Awst 2012, 15-39.
Esboniadur Cerddoriaeth Cymru
Cofnodion yn ymwneud â cherddoriaeth Gymraeg a Chymreig. Mae'r cofnodion yn deillio o'r Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru (gol. Pwyll ap Siôn a Wyn Thomas), cyfeirlyfr awdurdodol sydd yn cwmpasu holl gyfoeth cerddoriaeth yng Nghymru o’r 6ed Ganrif hyd at y presennol. Ffrwyth prosiect cydweithredol rhwng Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw’r Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru. Cyhoeddir Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru ar ffurf llyfr clawr caled gan wasg Y Lolfa, Talybont gyda chefnogaeth a chymorth ariannol Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru – gol. Pwyll ap Siôn a Wyn Thomas
Cyfeirlyfr awdurdodol sydd yn cwmpasu holl gyfoeth cerddoriaeth yng Nghymru o’r 6ed Ganrif hyd at y presennol. Tros 500 o gofnodion yn amrywio o gerddoriaeth gynnar i gerddoriaeth gyfoes, o gantorion gwerin i gerddorfeydd. Ffrwyth prosiect cydweithredol rhwng Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw’r Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru. Cyhoeddir Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru ar ffurf llyfr clawr caled gan wasg Y Lolfa, Talybont gyda chefnogaeth a chymorth ariannol Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae'r holl gynnwys hefyd ar gael ar Esboniadur Cerddoriaeth Cymru, sef adnodd agored ar-lein gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Craig Owen Jones, 'Papurau bro cynnar gogledd Cymru a cherddoriaeth roc Gymraeg' (2016)
Ers dyfodiad y papurau bro yn y 1970au, mae cannoedd o erthyglau ar gerddoriaeth roc wedi ymddangos yn eu tudalennau, yn rhoi cyhoeddusrwydd i fandiau roc lleol, gigiau, recordiau newydd, ac ati. Fodd bynnag, ni dderbyniodd y rhain unrhyw sylw academaidd. Mae'r erthygl bresennol yn ymdrin â natur a dylanwad y casgliad di-sôn-amdano hwn o ffynonellau, yn awgrymu bod y deunydd hwn yn taflu golau ar weithgareddau yn y byd cerddorol ar lefel rhanbarthol a lleol, a hefyd bod cywair yr ysgrifau yn datgelu rhywbeth am agenda'r cyfranwyr. Dangosir bod pwyslais ar gyfiawnhau nid bodolaeth ond gwerth diwylliannol cerddoriaeth roc Gymraeg ar ran y genhedlaeth hÅ·n yn dylanwadu ar ymatebion ysgrifenwyr ifainc a chefnogwyr y byd pop i'r perwyl hwnnw. Craig Owen Jones, 'Papurau bro cynnar gogledd Cymru a cherddoriaeth roc Gymraeg', Gwerddon, 22, Hydref 2016, 11–30.
Craig Owen Jones, 'Brwydr Iaith, Brwydro Iaith: Terminoleg y byd pop Cymraeg fel dull protestio yn y 1960au a'...
Mae'r erthygl hon yn bwrw golwg manwl ar y berthynas rhwng ymgyrchu iaith y 1960au a'r 1970au, a bathu termau newydd yn y byd pop Cymraeg. Canolbwyntir ar geisiadau i addasu'r Gymraeg i amgylchiadau cerddoriaeth boblogaidd y cyfnod hwn, ac eir ati i archwilio canlyniadau ideolegol y strategaethau bathu termau amrywiol a ddefnyddiwyd gan ysgrifenwyr. Craig O. Jones, 'Brwydr Iaith, Brwydro Iaith: Terminoleg y byd pop Cymraeg fel dull protestio yn y 1960au a'r 1970au', Gwerddon, 16, Hydref 2013, 10-27.
Craig Owen Jones, 'Ar y brig unwaith eto': siartiau pop iaith Gymraeg cynnar' (2013)'
Mae'r erthygl hon yn cynnwys dadansoddiad o siartiau tri phapur newydd yn ystod y flwyddyn 1972, yn canolbwyntio ar batrymau rhanbarthol a chenedlaethol, a hefyd ar berfformiad recordiau roc yn y siartiau. Dadlennir bod y siartiau o werth fel dangosydd gwerthiant tebyg, ond hefyd oherwydd eu statws fel cyfrwng i'r cyhoedd gymryd rhan yn y byd pop Cymraeg. Craig Owen Jones, ''Ar y brig unwaith eto': siartiau pop iaith Gymraeg cynnar', Gwerddon, 14, Ebrill 2013, 29-45.
Cynhadledd ‘Boddi mewn Celfyddyd’: Gwaddol ’65
Hanner can mlynedd ar ôl boddi Tryweryn, trefnwyd cynhadledd i gasglu ynghyd a gwerthfawrogi’r gwaddol celfyddydol a ysbrydolwyd gan foddi’r cwm mewn cynhadledd deuddydd mewn lleoliad arbennig nid nepell o Dryweryn. Yn ystod y gynhadledd, traddodwyd darlithoedd gan Dafydd Iwan a Manon Eames, a chafwyd arddangosfa aml-gyfrwng unigryw yn dogfennu hanes y boddi, a’r cynnyrch celfyddydol a grëwyd yn ei sgil. Cafwyd hefyd gyfle i ymweld â Thryweryn a chlywed am brofiadau ac atgofion Aeron Prysor Jones am foddi’r cwm, yn ogystal â mwynhau detholiad o’r ddrama Porth y Byddar gan Manon Eames, o dan gyfarwyddyd Siwan Llynor. Noddwyd y gynhadledd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Bangor.