Ym 1962 mae dau beth yn poeni'r bachgen 14 oed, Griff - diflaniad Alis, seren dosbarthiadau dawns ei fam, ac argyfwng Ciwba. Mae'n ceisio datrys y dirgelion o'i gwmpas trwy gynllunio mapiau. Ond mae'r mapiau yn ei hudo i fyd y tu hwnt i'w brofiadau diniwed ac mae'n darganfod yr ateb annisgwyl i ddirgelwch Alis. Gaucho Cyf, 1995. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Mynydd Grug (1995)
Mynydd yng ngogledd Arfon, gaeaf 1899. Mae Begw yn edrych ymlaen at yr eira, a'r bore wedyn mae'r byd i gyd yn wyn! Ond ble mae Sgiatan y gath? Mae'r anifail wedi boddi mewn bwced â rhew drosti. Daw clep ar y drws tu ôl iddi - adlais o'r drysau fydd yn clepio arni yn ei bywyd o hynny ymlaen... Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Plentyn Cyntaf (1990)
Ffilm yn creu darlun o'r dyfodol yw hon. Mae'r ffilm wedi'i lleoli ym mhencadlys cwmni cyffuriau mawr sydd hefyd yn glinig meddygol lle mae pobl yn cael eu defnyddio mewn arbrofion. Mae'r sefydliad mewn dyfroedd dyfnion ac mae Tomos Clay, myfyriwr sy'n gweithio yno fel swyddog diogelwch, yn meddwl am ffordd i'w achub. Ei syniad ef yw cynnal cystadleuaeth i weld pwy fydd baban cyntaf y mileniwm newydd, gan ddenu cyhoeddusrwydd gwerthfawr. Dros ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, a'r plant a anwyd fel rhan o'r gystadleuaeth bellach yn oedolion, mae yna ganlyniadau dramatig i weithredoedd Clay. Nid yw ysgwyd y gorffennol i ffwrdd mor syml ag a dybiodd. Ffilmiau Bryngwyn, 1990. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Stafell Ddirgel
Addasiad o nofel adnabyddus Marian Eames. Dyma stori rhai o gymeriadau enwocaf llenyddiaeth Cymru, megis Rowland Ellis, Sgweiar Brynmawr (Ryland Teifi), a’i wraig brydferth ond hunanol, Meg (Lowri Steffan), ac yn gefndir iddynt, cyfnod cythryblus y Crynwyr yn ardal Dolgellau. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Weithred (1995)
Drama gan Meic Povey yn seiliedig ar hanes tri Chymro - Emyr Llewelyn, Owain Williams a John Albert Jones - a ymdrechodd i rwystro cynlluniau Corfforaeth Lerpwl i foddi pentref Capel Celyn yng Nghwm Tryweryn yn y Chwedegau. Opus 30, 1995. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Wisg Sidan (1997)
Mae'r gyfres yn seiliedig ar nofel gan Elena Puw Morgan, a gyhoeddwyd yn 1936. Lleolir y stori rhwng 1885 a 1912. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Yma i Aros (1990)
Drama gan Michael Povey ac Emyr Huws Jones. Mae Gari wedi troi ei gefn ar yrfa mewn deuawd canu gwlad llwyddiannus, ond daw Susan, ei gyn-bartner, i chwilio amdano. Pam? Gyda Bryn Fôn a Morfydd Hughes. Ffilmiau Bryngwyn, 1990. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Ymadawiad Arthur (1994)
Wedi ei seilio yn y flwyddyn 2096 mae'r ffilm yn dilyn hanes, neu'n hytrach strach, Cymry'r dyfodol i ddarganfod 'Diwylliant Cymraeg' wedi i rhywun golli'r disg oedd yn dal yr holl wybodaeth bwysig. Mae Cymry'r dyfodol yn ceisio cael gafael ar y Brenin Arthur i arwain ei bobl ac yn danfon anffodus yn yn ôl i'r flwyddyn 1960 i ddarganfod diwylliant y werin. Cynyrchiadau'r Bae, 1994. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Syniad i'r Sgrin – Heledd Wyn
Dyma gyfrol ymarferol gan Heledd Wyn ar gyfer creu cynnwys creadigol gweledol. Prif bwrpas y gyfrol yw cynnig sgiliau sylfaenol a chanllawiau penodol ar gyfer pob agwedd ar gynhyrchu cynnwys digidol gweledol o'r syniad i'r sgrin. Mae hon yn gyfrol ryngweithiol sy'n cynnwys clipiau fideo.
Tair Chwaer (1996)
Drama wedi'i lleoli yn ardal y Tymbl ger Llanelli sy'n dilyn hynt a helynt tair chwaer sy'n perfformio mewn gr?p canu gwlad. Mae Sharon, Lyn a Janet yn defnyddio'r grwp fel dihangfa o'u bywyd beunyddiol ac mae'r gyfres yn olrhain eu problemau, eu breuddwydion, eu rhywioldeb, eu caru a'u cecru. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Talcen Caled
Cyfres deledu sy’n olrhain hanes teulu Les a Gloria yn wyneb caledi wrth i’r cwmni y mae Les yn gweithio iddi fynd yn fethdalwyr. Dilynir ef wrth iddo chwilio am waith, a cheisio cael dau pen linyn ynghyd. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Teledu a'r Gynulleidfa Fyddar a Thrwm ei Chlyw
Dyma adnodd sydd yn trafod sut mae teledu (ac yn benodol teledu digidol) yn diwallu anghenion cynulleidfa fyddar neu drwm ei chlyw. Mae'n rhoi cyflwyniad i'r ymchwil academaidd yn y maes, yn trafod beth yw'r gofynion ar y darlledwyr ac yn ystyried canlyniadau arolwg a wnaed yn 2013 yn gofyn yn benodol am argraffiadau'r gynulleidfa fyddar a thrwm ei chlyw yng Nghymru o'r ddarpariaeth ar deledu digidol. Ystyrir beth yw'r heriau a wynebir gan y gynulleidfa hon wrth geisio deall a mwynhau cynnwys ar deledu. Bwriad yr adnodd yw sicrhau bod deunydd ar gael sydd yn galluogi myfyrwyr i ystyried bod natur cynulleidfa yn amrywiol, a bod gofynion gwahanol yn dibynnu ar eu anghenion. At hynny, mae'r adnodd yn trafod pam fod hygyrchedd gwasanaethau yn bwysig yn gymdeithasol. Mae'r adnodd hwn wedi ei anelu at fyfyrwyr sy'n astudio'r Cyfryngau, er y gall fod yn addas i fyfyrwyr sydd yn astudio Gwyddorau Cymdeithasol. Gellid defnyddio'r adnodd yma fel gwaith darllen ar gyfer darlith a/neu seminar ar fodiwl lle ystyrir y Cyfryngau a Chymdeithas, Iaith a'r Cyfryngau neu Gynulleidfaoedd.