Added on: 03/06/2020 Publish Date: - 983

Myfi, Iolo Morgannwg (1987)

Description

Rhaglen ddrama dogfen yn olrhain hanes bywyd Iolo Morgannwg. Iolo Morgannwg, neu Edward Williams oedd un o feirdd ac ysgolheigion mwyaf Cymru. Roedd e' hefyd yn dwyllwr. Adlewyrchir ei gymeriad unigryw yn y ddrama ddogfen wreiddiol hon lle mae Dafydd Hywel yn chwarae rhan Iolo Morgannwg ac yn ail fyw rhai o ddigwyddiadau clasurol ei fywyd: llywio llong hwylio ym Mor Hafren, cael ei luchio allan o'r Llyfrgell Brydeinig yn Llundain a chael ei gloi yng Ngharchar Caerdydd. Drwy'r cyfan mae'r cyflwynydd, yr Athro Gwyn Alf Williams, yn dilyn pob symudiad o'i eiddo, ac yn y diwedd, yn yr Eglwys lle gorwedd gweddillion Iolo, maen nhw'n dod wyneb yn wyneb. Teliesyn, 1987.

Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.

Documents and links:

Collection Level
Higher Education
Collection belongs to
History
License
ERA
S4C archive
Password Protected
mân-lun archif S4C

Subscribe/Create Account

Please fill in your details below to receive email notifications about new resources.